Mae'r Strategaeth yn fwriadol uchelgeisiol, ac rydym yn cydnabod y bydd gweithgareddau cysylltiedig yn cymryd amser, rydym felly wedi gosod map ffordd realistig a chynyddol ar gyfer newid.
 
Bydd cyflymder cynlluniedig y ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r capasiti sydd ar gael o fewn y sefydliad i gefnogi’r gwaith hwn, bydd hefyd yn cydnabod yr angen i gefnogi gweithwyr wrth symud tuag at y cydsyniad o wybodaeth fel ased corfforaethol a arweinir gan y cwsmer.
Pan fyddwn yn datblygu ac yn darparu gweithgareddau yn rhan o’r Strategaeth hon, byddwn yn mabwysiadu’r egwyddorion canlynol:
- Cefnogi arloesedd.
 
- Casglu unwaith, defnyddio sawl tro.
 
- Preifatrwydd drwy ddyluniad.
 
- Bod yn dryloyw a theg.
 
- Bod yn saff a diogel.
 
- Cydweithio lle bo’n bosibl.