"Byddwn yn trin gwybodaeth a data fel ased corfforaethol allweddol i gefnogi gwneud penderfyniadau gwell a'r defnydd gorau o adnoddau."
 
Egwyddorion:
- Deall rolau a chyfrifoldebau corfforaethol sy’n ymwneud â Rheoli Gwybodaeth a Data yn glir.
 
- Deall y wybodaeth a’r data rydym yn eu cadw a’u gwerth i’r sefydliad.
 
- Darparu sicrwydd bod diogelwch gwybodaeth yn cael ei reoli’n effeithio.
 
- Gweithredu’n effeithiol ac yn dryloyw o fewn y fframweithiau cyfreithiol priodol.
 
- Sicrhau bod ein gwybodaeth a data ar gael ble a phryd mae eu hangen.
 
- Sicrhau bod ein gwybodaeth a data’n safonol er mwyn hwyluso rhannu ac ail-ddefnyddio.
 
Cam Gweithredu Fframwaith Strategol
| Rhif | Cam Gweithredu | 
| 1 | 
Adnabod gweithwyr perthnasol ar draws y sefydliad sy’n ymgymryd â rôl rheoli gwybodaeth a diffinio eu rolau a’u cyfrifoldebau’n glir. | 
| 2 | 
Meddu ar ddealltwriaeth dda o beth yw ein Hasedau Gwybodaeth a Data, ble maent yn cael eu cadw a phwy sy’n gyfrifol amdanynt. | 
| 3 | 
Deall sut a ble mae data yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar draws gwasanaethau’r Cyngor; yn cynnwys ble mae data’n cael ei ddyblygu a ble mae bylchau.   | 
| 4 | 
Cwblhau a chadw achrediadau diogelwch gofynnol a pherthnasol a fydd yn rhoi sicrwydd i Aelodau Etholedig a chwsmeriaid Sir y Fflint bod dulliau arfer da yn tanategu Rheoli Gwybodaeth a Data corfforaethol. | 
| 5 | 
Sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â Deddfwriaethau Rheoli Gwybodaeth perthnasol (e.e. GDPR, FOI, EIR ac ati). | 
| 6 | 
Sicrhau bod gan y Cyngor gyfres lawn o bolisïau a gweithdrefnau Rheoli Gwybodaeth a Data wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi, sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a strategol. | 
| 7 | 
Egluro’r fframwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth a data ar draws y sefydliad a’i bartneriaid, i gefnogi gweithwyr a gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio gwybodaeth yn rhagweithiol ac yn briodol i wella gwasanaethau a chanlyniadau i gwsmeriaid.  | 
| 8 | 
Parhau i ddatblygu dull y Cyngor o ran safoni data cyfeiriadau i allu gweld gwybodaeth eiddo mewn un lle. | 
| 9 | 
Datblygu dull y Cyngor o ran safoni data cwsmeriaid i allu gweld gwybodaeth cwsmeriaid mewn un lle. | 
| 10 | 
Gwell dealltwriaeth o lif gwybodaeth a data ar draws y sefydliad er mwyn i ni allu adnabod achosion o ddyblygu a rhannu ac ail-ddefnyddio gwybodaeth a data’n effeithiol. |