"Bydd gan bobl a sefydliadau hyder llwyr y bydd eu gwybodaeth a'u data'n cael eu trin yn gyfrifol, yn ddiogel ac yn foesegol, yn unol 芒'r ddeddfwriaeth Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion briodol a gan ddilyn arfer gorau'r diwydiant perthnasol i Reoli Gwybodaeth a Diogelwch."
 
Egwyddorion:
- Bydd pob gweithiwr wedi’i hyfforddi’n briodol yn y meysydd canlynol:
- Seiberddiogelwch.
 
- Cydymffurfiaeth Gwybodaeth.
 
- Hyfforddiant ar systemau sy’n benodol i’w rolau.
 
 
- Bydd gan weithwyr ddealltwriaeth glir o ba mor hir y dylem gadw gwybodaeth a data, a sut y dylem gael gwared arnynt neu eu cadw pan nad oes ganddynt ddefnydd busnes mwyach.
 
- Bydd gweithwyr yn hyderus wrth rannu gwybodaeth yn briodol gyda phartneriaid a gwasanaethau eraill.
 
Cam Gweithredu Ymwybyddiaeth a Sgiliau 
| Rhif | Cam Gweithredu | 
| 1 | 
Parhau’r sgwrs â gweithwyr allweddol ar draws y sefydliad ynglŷn â gwybodaeth a data yn gweithredu fel galluogwr allweddol o ran darpariaeth gwasanaeth effeithiol.  Cefnogi hyn â hyfforddiant Diogelu Data a seiberddiogelwch gorfodol i bob gweithiwr, wedi’i addasu yn ôl manylder a chymhlethdod eu rôl. | 
| 2 | 
Cynyddu ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad am drefn y broses archifo a chadw ar gyfer cofnodion ffisegol a chofnodion digidol. | 
| 3 | 
Gwella ein gallu i ddarparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i reolwyr ar draws y sefydliad er mwyn eu hannog i fod yn hyderus wrth ddefnyddio data i wella ansawdd ac effaith y gwasanaethau maent yn eu darparu. | 
| 4 | 
Parhau i weithio gyda phartneriaid i gynnal dull rhagweithiol a’r arfer orau o ran diogelu ein gwybodaeth a’n data. |