天涯社区

Alert Section

Gostyngiad Dewisol Adran 13A


Cyn gwneud cais, darllenwch ein Polisi ar Adran 13A yma ac ystyriwch pa gais mae angen i chi ei gwblhau ar sail eich amgylchiadau.

Wrth benderfynu rhoi gostyngiad dewisol neu beidio, bydd y Cyngor yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun ar sail y dystiolaeth a’r amgylchiadau sydd wedi’u nodi ym mhob cais.

Eiddo wedi’i Ddifrodi
Eiddo nad oes modd byw ynddo oherwydd difrod sylweddol o ganlyniad i dân, llifogydd, nwy neu olew wedi gollwng, difrod storm neu ymsuddiant (heb gynnwys cytiau, siediau na gerddi), lle mae camau’n cael eu cymryd i adfer y prif adeilad i’w ddefnyddio ar y cyfle cyntaf.

.

Caledi Ariannol Eithriadol
Mae gan y Cyngor Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Dyma gynllun ar sail prawf modd ac mae’n darparu cefnogaeth drwy ostyngiad treth cyngor o hyd at 100% i rai sydd angen cymorth i dalu costau treth y cyngor. Byddai disgwyl i ymgeiswyr fod wedi gwneud cais i Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor cyn gallu ystyried rhoi gostyngiad dewisol. Gallwch wneud cais i’r Cynllun yma

.