Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ffioedd gwresogi cymunedol
  		Published: 14/07/2017
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 18 Gorffennaf, gofynnwyd i aelodau 
gymeradwyor ffioedd gwresogi wythnosol mewn eiddo sydd 芒 systemau gwresogi 
cymunedol ar gyfer y 3 blynedd nesaf. 
Mae naw o gynlluniau gwresogi cymunedol ar draws Sir y Fflint. Y Cyngor sy鈥檔 
talu am y tanwydd yn y lle cyntaf, ac yna mae鈥檔 casglu arian amdano gan 
denantiaid yn ychwanegol at eu rhent wythnosol, gydar nod o adennill y costau 
i fod yn gyfartal ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae taliadau gwresogi ar 
gyfer defnyddio tanwydd yn seiliedig ar ddefnydd y flwyddyn flaenorol.
 
Mae cost nwy wedi cynyddu鈥檔 sylweddol yn 2017/18, felly mae angen cynyddu鈥檙 ffi 
wresogi wythnosol mewn chwech o鈥檙 naw cynllun gwresogi cymunedol.
 
Mae defnydd yn y tri bloc twr yn y Fflint wedi gostwng ar 么l y mesurau arbed 
ynni a gymerwyd yn rhan o waith Safon Ansawdd Tai Cymru.   
 
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
 
 鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod ein gwaith i arbed ynni yn Nhyrraur Fflint yn golygu y 
bydd ffioedd gwresogin gostwng yn Castle Heights dros y flwyddyn nesaf i 
gyfartaledd o 拢5.10.  Ni fydd newid yn ffioedd y ddau floc arall ar gyfer y 
flwyddyn nesaf. Mae cynnydd mewn ffioedd gwresogi鈥檔 cael ei gyflwyno fesul cam 
yn ein chwe chynllun arall, gan gydnabod y pwysau ariannol y mae cartrefin ei 
wynebu.  
 
Bydd yr holl newidiadau mewn grym o 1 Medi 2017 ymlaen.