Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Myfyrwyr yn tyrchu drwy鈥檙 archifau
  		Published: 06/07/2017
Roedd Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint yn falch i groesawu chwech o fyfyrwyr o 
Ysgol Uwchradd Penarl芒g yn ddiweddar.
Treuliodd y myfyrwyr ran o鈥檙 amser yn rhestru cofnodion mewn bocs o Gasgliad 
Plwyf Penarl芒g. Mae鈥檙 cofnodion hyn yn rhan o bortffolio a gasglwyd gan y Parch 
Stephen Gladstone, rheithor Penarl芒g rhwng 1872-1904 ac mae鈥檔 cynnwys posteri, 
rhaglenni, toriadau newyddion, tocynnau a threfnau gwasanaethau.  Mae hwn yn 
gasgliad hynod ddiddorol i unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn hanes Penarl芒g. 
Roedd y myfyrwyr yn y Swyddfa Gofnodion fel rhan o gydran wirfoddol Bagloriaeth 
Cymru.  Y thema eleni oedd 鈥榊r Amgylchedd鈥 felly aethant ati i gyfunor gwaith 
yn y swyddfa gydag ychydig o arddio.  Er y tywydd ofnadwy, cliriodd y myfyrwyr 
y chwyn ar hyd y l么n at yr Hen Reithordy a thorri鈥檙 gwrychoedd oedd yn estyn 
dros y llwybr gan wneud yr ardal yn ddiogel ar gyfer ein cwsmeriaid.  
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
 鈥淩oedd yn wych gweld y Swyddfa Gofnodion yn croesawu鈥檙 myfyrwyr o Ysgol 
Uwchradd Penarl芒g.  Gweithiodd y criw鈥檔 galed dros y 2 ddiwrnod ac roeddent yn 
amlwg yn mwynhau gweld y dogfennau yn y casgliad.  Cawsant hefyd y cyfle i 
astudio rhai o鈥檙 dogfennau eraill yn ymwneud 芒鈥檜 hysgol, a bydd cop茂au o鈥檙 
rheini yn rhan o鈥檜 portffolio o dystiolaeth.鈥
Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington:
 鈥淢ae gan y Swyddfa Gofnodion gyfoeth o ffynonellau cynradd, ar draws ystod 
eang o destunau, a all helpu myfyrwyr gyda鈥檜 hastudiaethau a byddem yn eu 
hannog i gael golwg ar ein gwefan a chwilio drwy ein cronfeydd data i weld a 
oes gennym unrhyw beth a allai helpu gydag unrhyw brosiect penodol.鈥 
Os hoffech chi wneud apwyntiad i weld y casgliad hwn, cysylltwch 芒鈥檙 Swyddfa 
Gofnodion gan ddyfynnu cyfeirnod P/28/1/91. Mae鈥檙 Swyddfa Gofnodion wedi ei 
lleoli yn yr Hen Reithordy ym Mhenarl芒g a gellir cysylltu 芒 nhw drwy ffonio 
01244 532364 neu anfon e-bost i archives@flintshire.gov.uk.