Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llwyddiant mewn her ffitrwydd cenedlaethol
  		Published: 11/05/2017
Mae Pafiliwn Jade Jones yn y Fflint yn dathlu eu llwyddiant mewn ymgyrch i 
gefnogi ysgol leol.
 
Mae鈥檙 ymgyrch, a elwir yn 鈥淕adewch i Ni Symud am Fyd Gwell鈥, yn ymgyrch 
fyd-eang i ymdrin 芒 gordewdra a diffyg ymarfer corff. Y nod oedd ymgysylltu 芒鈥檙 
gymuned a鈥檜 hannog i ddod i 鈥済yfrannu鈥 eu gweithgaredd corfforol i helpu鈥檙 
gymuned leol a chroesawu ffordd o fyw iachach. Roedd yr ymgyrch yn weithredol o 
13-31 Mawrth. 
 
O鈥檙 219 o safleoedd a gymrodd ran ar draws y DU, gorffennodd y Fflint yn safle 
26 鈥 gyda 1,003,484 o symudiadau (fel y mesurwyd gan yr offer) sy鈥檔 ganlyniad 
rhagorol o ystyried mai 17 o beiriannau cardio sydd ganddynt yn eu campfeydd, 
llai na llawer o ganolfannau hamdden eraill oedd yn cymryd rhan.
 
Dywedodd y Prif Swyddog dros Newid Sefydliadol yng Nghyngor Sir y Fflint, Ian 
Bancroft:
 
鈥淢ae鈥檙 athrawon yn ysgol arbenigol Maes Hyfryd, Ysgol Uwchradd y Fflint, 
gweithlu Pafiliwn Jade Jones ac aelodau鈥檙 gampfa wedi gwirioneddol ddod ynghyd 
i gyflawni hyn. Roedd yn wych i鈥檙 gymuned ac roedd elfen gystadleuol pawb iw 
weld drwy gydol yr her!鈥
 
Dywedodd goruchwyliwr ystafell ffitrwydd y Fflint, Alan Duppa:
 
鈥淢ae taro dros filiwn o symudiadau ar gyfer canolfan hamdden gymharol fach yn 
llwyddiant anferthol. Y prif fwriad oedd i fynd am y 3 miliwn ac ennill offer 
Arke ar gyfer campfa Ysgol Maes Hyfryd. Er i ni ddod yn fyr o hynny, mae miliwn 
o symudiadau yn dangos y penderfynoldeb rhagorol gan bawb a gymrodd ran.  Nid 
yn unig rydym wedi cyflawni rhywbeth arbennig, ond rydym wedi gwella lefelau 
ffitrwydd cwsmeriaid ar gweithlu ac wedi gwneud mwy o bobl yn ymwybodol or 
lefelau cynyddol o ordewdra ar draws y byd. Roeddwn mor hapus gyda鈥檙 ymdrech a 
wnaed gan bawb a gymrodd ran.  Rydym ni鈥檔 un o ddim ond 26 canolfan sydd wedi 
cyflawni鈥檙 trothwy miliwn ac rydym wedi ennill diwrnod hyfforddi, ac rwyn 
gobeithio y bydd staff yn Ysgol Maes Hyfryd yn mynychu.  Hefyd roeddem wedi 
gwerthu crysau t a bagiau a gododd 拢200 ir ysgol.