Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Meysydd Chwarae a Chaeau Pob Tywydd
  		Published: 10/03/2017
Mabwysiadwyd Rhaglen Gyfalaf Cronfa鈥檙 Cyngor gan y Cyngor Llawn ar 14 Chwefror 
ac roedd hyn yn cynnwys arian a glustnodwyd ar gyfer  meysydd chwarae a chaeau 
pob tywydd.
Yng nghyfarfod y Cabinet y mis hwn gofynnir i gynghorwyr gytuno ar y cynlluniau 
ar gyfer y meysydd hyn y bydd buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud ynddynt 
dros y tair blynedd nesaf.
Mae Rhaglen Gyfalaf Cronfa鈥檙 Cyngor wedi cymeradwyo bron 拢900,000 ar gyfer 
gwariant ar feysydd chwarae a chaeau pob tywydd yn y dyfodol, sydd yn 
ychwanegol at y  拢0.105 ar gyfer cynlluniau meysydd chwarae nawdd cyfatebol.
Mae鈥檙 caeau pob tywydd ym Mold Alun a Phenarl芒g bellach dros 10 oed ac 
adnewyddu鈥檙 rhain fydd yn cael y flaenoriaeth uchaf.  Mae鈥檙 chwe chae yng 
Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy hefyd angen eu newid gan eu bod wedi 
cyrraedd diwedd eu hoes o saith mlynedd.  Mae defnydd da鈥檔 cael ei wneud o鈥檙 
caeau hyn ac maen nhw鈥檔 cynhyrchu incwm o  拢0.120m y flwyddyn. 
Mae鈥檙 Cyngor hefyd yn bwriadu buddsoddi mewn meysydd chwarae lleol dros y tair 
blynedd nesaf. Bydd buddsoddiad o 拢25,000 yn cael ei wneud mewn meysydd chwarae 
yn y Fflint, Ffynnongroyw, Cei Connah a Bagillt  yn ystod y flwyddyn ariannol 
2017/18, a bydd gwelliannau i gaeau chwarae eraill yn y blynyddoedd dilynol.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Hamdden, Cynghorydd Kevin Jones:
鈥淩ydw i wrth fy modd fod Gweinyddiaeth y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ein 
caeau a鈥檔 meysydd chwarae er mwyn sicrhau鈥檙 cyfleusterau gorau posibl ar gyfer 
trigolion Sir y Fflint. Mae cadw鈥檔 ffit ac yn actif mor bwysig ac mae鈥檔 wych 
fod yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi, yn enwedig gan fod cynghorau ar hyn o 
bryd yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd dros ben.  Rwy鈥檔 sicr y 
bydd y buddsoddiad cyfalaf hwn, sydd yn ychwanegol at y nawdd cyfatebol a 
dderbynnir, yn cael ei groesawu gan bawb.鈥