Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cadeirydd yn llongyfarch preswylydd Sir y Fflint
  		Published: 08/03/2017
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu preswylydd lleol i Neuadd y Sir 
er mwyn ei llongyfarch am dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig.
Derbyniodd Mrs Aird y fedal am ei gwaith gwirfoddol gyda’r Lleng Brydeinig. 
Cafodd ei llongyfarch gan y Cynghorydd Peter Curtis a bu iddo hefyd gyflwyno 
mwg arbennig iddi ar ran Cyngor Sir y Fflint.
Yn y llun: Wendy Coats – cyfaill Mrs Aird, Mrs Jennifer Curtis – consort y 
Cadeirydd, Mrs Aird a Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis.