Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Caffi Dementia yn agor yn Saltney
  		Published: 07/03/2017
Maer caffi diweddaraf i gefnogi pobl syn dioddef o ddementia au gofalwyr 
wedi cael ei agor yn swyddogol yn Saltney.
Mae鈥檙 caffi wedi dod yn bosib drwy gymorth a gweithio mewn partneriaeth gyda 
Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, sefydliad nid-er-elw 
sy鈥檔 cefnogi gofalwyr yn y gymuned, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gorllewin Swydd 
Caer a Dinas Caer, a chymuned a phreswylwyr Saltney. 
Cafodd y caffi a fydd ar agor unwaith y mis, ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis, 
rhwng 1-3pm, ei agor yn swyddogol yng Nghanolfan Gymunedol Douglas Place ar 
Woodall Avenue gan y Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia Saltney. 
 Cr毛wyd y fenter hon i gael gwared ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Gorllewin 
Swydd Caer a Dinas Caer, fel y gall pobl sy鈥檔 byw gyda Dementia a鈥檜 gofalwyr 
gael mynediad ar y cyd at gymorth a chyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淗wn yw鈥檙 seithfed caffi dementia yr ydym wedi ei agor yn Sir y Fflint.  Rwy鈥檔 
falch iawn o ymrwymiad staff Cyngor Sir y Fflint a鈥檜 sefydliadau partner sydd 
yn parhau i weithio鈥檔 galed i sicrhau ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth a 
chefnogi pobl gyda dementia a鈥檜 gofalwyr.  Hyd yma, mae ein caffis wedi bod yn 
llwyddiant iawn, ac rwy鈥檔 siwr y bydd yr un yn Saltney yr un mor llwyddiannus.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Louise Gittins, aelod Cabinet Cymunedau a Lles Cyngor 
Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer:  鈥淩ydym yn falch iawn o鈥檙 gwaith gwych syn 
cael ei gyflawni ar draws y fwrdeistref ac yn ehangach i ysbrydoli a galluogi 
cymunedau cynhwysol a chyfeillgar i ddementia, a thrwy ymrwymiad a brwdfrydedd 
pawb sydd ynghlwm, gan gynnwys y cynghorau a phartneriaid, sefydliadau, grwpiau 
a chymunedau lleol. 
鈥淕an weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o 
ddementia a helpu i gefnogi cymuned Saltney i fod yn fwy cyfeillgar i ddementia 
i alluogi pobl sy鈥檔 byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr gael eu cefnogi, 
teimlo鈥檔 llai ynysig a bod yn fwy o ran yn eu cymuned leol.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay, Cadeirydd Grwp Cyfeillgar i Ddementia 
Saltney:
鈥淩wyf wedi bod eisiau helpu i ddatblygu caffi dementia yn Saltney.  Mae llawer 
o鈥檙 preswylwyr sydd yn fy ward sydd yn byw ac yn cefnogi pobl sydd wedi canfod 
bod ganddynt ddementia cynnar wedi dod ataf, gan nad oedd unlle yn lleol ac 
roedd rhaid iddynt deithio o amgylch Sir y Fflint i gael cefnogaeth.
鈥淗offwn ddiolch i Ray Peters a鈥檌 d卯m o wirfoddolwyr am gynnal y caffi cof yn 
Douglas Place.    Rwy鈥檔 hapus iawn bod hyn wedi digwydd yn awr ac yn falch iawn 
ei fod yn cael ei gefnogi gan Cyngor Gorllewin Swydd Caer a Dinas Caer, yn 
arbennig gan fod Saltney wedi鈥檌 gydgysylltu ac yn dibynnu ar wasanaethau yng 
Nghaer.  Mae鈥檙 ymdrech t卯m cymunedol gwych wedi arwain at adnodd gwych i bobl 
sy鈥檔 byw gyda dementia a鈥檜 gofalwyr.鈥
Mae Caffis Dementia yn darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol ar 
gyfer pobl 芒 dementia au gofalwyr i gymdeithasu. 
Yn ogystal 芒 chynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr a hwyliog, mae Caffis 
Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl 芒 dementia gael gwybodaeth a chyngor a 
siarad 芒 phobl eraill sydd 芒 phroblemau tebyg.
I gael rhagor o wybodaeth am y caffi, cysylltwch 芒 Luke Pickering-Jones ar 
01352 702655.