Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Strategaeth Ddigidol ar gyfer y Cyngor
  		Published: 10/02/2017
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu strategaeth ddigidol eang, 
newydd pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 14 Chwefror.
Mae’r strategaeth ddigidol yn nodi amcanion y Cyngor mewn perthynas â 
thechnoleg ddigidol, gan gynnwys datblygu economaidd, addysg a gwaith cymunedol 
– materion mor eang â sicrhau bod gan bobl ifanc y dechnoleg ddigidol y maent 
ei hangen a phwyso am fand-eang cynt yn y Sir.  
Un o’r uchelgeisiau mwyaf a phellgyrhaeddol yw troi at ddull digidol yn 
gyntaf o ddarparu gwasanaethau.  Mae gwefan y Cyngor eisoes wedi cael y sgôr 
uchaf o 4 seren gan y corff proffesiynol sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, 
SOCITM (Society of Information Technology Management).  Mae’r Cyngor am wella 
ar hyn trwy sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael dros y we fel y gall pobl eu 
defnyddio ar adegau syn gyfleus iddyn nhw, yn hytrach nag yn ystod yr oriau 
gwaith traddodiadol.  
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
 “Mae pobl yn disgwyl gallu cael gafael ar wasanaethau ar adeg syn addas ar eu 
cyfer nhw a thrwy ddarparur rhain dros y we, maer Cyngor yn sicrhau eu bod 
nhw ar gael bob awr or dydd. Mae bron i 90% o oedolion ym Mhrydain yn 
defnyddior we bob dydd ac maer gyfran honnon fwy ymysg grwpiau iau.  Rydyn 
ni’n cydnabod y gallai’r rhyngrwyd fod yn rwystr i rai pobl allu defnyddio’r 
gwasanaeth y maen nhw ei angen ac felly mi fyddwn yn parhau i ddarparu dulliau 
traddodiadol, fel gwasanaeth dros y ffôn neu trwy ddefnyddio swyddfeydd 
llwyddiannus Sir y Fflint yn Cysylltu.