Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Polisi Diogelu Corfforaethol 
  		Published: 10/02/2017
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu adroddiad ar ddiogelu corfforaethol 
y Cyngor a gofynnir iddynt gymeradwyo polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad eang 
pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Mae diogelu鈥檔 gysyniad ehangach na diogelu plant ac oedolion ac yn delio 芒 
hyrwyddo: 
Iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol;
Amddiffyn rhag cam-drin neu esgeulustod;
Addysg, hyfforddiant a hamdden;
Cyfraniad at gymdeithas.
Er bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn arwain ar ddiogelu corfforaethol, mae鈥檔 
gyfrifoldeb pob gwasanaeth ar draws y Cyngor. Mae cyfrifoldebau鈥檙 Cyngor ar 
gyfer diogelu鈥檔 cael eu nodi mewn deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau 
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Sir y Fflint yn ymroddedig i鈥檞 gyfrifoldebau ac wedi cymryd camau 
cadarnhaol drwy sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol mewnol, i sicrhau bod 
trefniadau cadarn yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. 
鈥淢ae鈥檙 Panel eisoes wedi cynnal hunanasesiad ac wedi nodi camau gweithredu yn 
ei rhaglen waith, sy鈥檔 arloesol ac yn flaengar. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys, 
datblygu polisi Diogelu Corfforaethol llawn, cyflwyno hyfforddiant diogelu 
wedi鈥檌 anelu at bob gweithiwr ac aelod etholedig, a chynhyrchu adroddiad 
diogelu blynyddol i鈥檙 Cabinet a鈥檙 Pwyllgorau Craffu, gyda chyfres glir o 
ddangosyddion perfformiad i fesur llwyddiant.
鈥淯nwaith y caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd y polisi drafft yn mynd 
allan ar gyfer ymgynghoriad ehangach.鈥
Mae鈥檙 Panel yn cael ei gadeirio ar y cyd gan y Prif Swyddog, Gwasanaethau 
Cymdeithasol a鈥檙 Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid, ac yn cynnwys Arweinydd 
Diogelu dynodedig o bob Portffolio. Mae鈥檙 Aelod Cabinet, Gwasanaethau 
Cymdeithasol ac Aelod Cabinet, Rheolaeth Gorfforaethol hefyd yn aelodau or 
Panel hwn.