Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Safonau Iaith Gymraeg
  		Published: 10/02/2017
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi a chymeradwyo canlyniad 
llwyddiannus y Cyngor ar Safonau Iaith Gymraeg wediu trafod.
Bydd Cynghorwyr yn clywed canlyniad trafodaethau gyda Chomisiynydd y Gymraeg am 
set newydd o Safonau Iaith Gymraeg ar gyfer y Cyngor.  Bydd y Safonau hyn, sy鈥檔 
cael eu gweithredu ar draws Cymru, yn disodli Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor.  
Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol gyda Chomisiynydd y Gymraeg, 
mae鈥檙 Cyngor wedi cytuno ar ddiwygiadau, eithriadau a dyddiadau gweithredu 
wedi鈥檜 gohirio i鈥檙 Safonau bellach, yn benodol i Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn ganlyniad da i Sir y Fflint.   Mae鈥檙 Cyngor yn gwbl ymrwymedig i鈥檙 
iaith Gymraeg ac mae gennym ganlyniad cadarnhaol i鈥檙 nifer fach o faterion a 
godwyd gennym gyda鈥檙 Comisiynydd - roedd y rhain yn cynnwys pethau fel ein 
mewnrwyd, negeseuon system sain ac arwyddion.   
鈥淢ae gennym set o safonau ymarferol a realistig bellach syn atgyfnerthu ein 
hymrwymiad i ddwyieithrwydd heb fod yn faich o ran cost.  Mewn adroddiad i鈥檞 
gyflwyno yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyflwyno Strategaeth Hyrwyddo Iaith a 
fydd yn codi proffil a chryfhau鈥檙 Gymraeg yn Sir y Fflint.鈥