Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 
  		Published: 10/02/2017
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Gwariant y Grant ar 
gyfer 2017/18 ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror.
Yn 2012, creodd Llywodraeth Cymru Grant Rhaglen Cefnogi Pobl. Maer grant hwn 
yn ariannu darpariaeth gwasanaethau syn galluogi i bobl ddiamddiffyn ennill a 
chadw eu hannibyniaeth drwy aros yn eu cartrefi eu hunain.
Maer Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2016-18 ar gyfer Grant y Rhaglen 
Cefnogi Pobl wedi bod yn destun gostyngiadau sylweddol rhwng 2013 a 2016. Fodd 
bynnag, maer grant wedi ei ddiogelu yn y flwyddyn ariannol 2017/18, gan roi 
cyfle ir T卯m Cefnogi Pobl barhau 芒r gwaith gyda darparwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint,
鈥淩wyn falch iawn bod Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl wedi cael ei ddiogelu yn 
2017/18. Mae hyn yn rhoi sicrwydd y bydd ein T卯m Cefnogi Pobl yn gallu parhau 
芒r gwaith gwych y maent wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid ynghylch 
materion pwysig fel cam-drin domestig, cymorth tai a gofal yn y gymuned.鈥