天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu pen-blwydd Joan yn 100 mlwydd oed!

Published: 09/12/2016

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig. Yn ddiweddar, bu Joan Scott yn mwynhau ei phen-blwydd yn 100 oed yng Nghartref Gofal Pen-y-Bryn ym Magillt, lle daeth y Cynghorydd Peter Curtis a Mrs Curtis i鈥檞 gweld. Ganed Joan yn Joan Siddons yn Brixton ar 26 Tachwedd 2016. Hi yw鈥檙 hynaf o bedwar o blant 鈥� lladdwyd ei brawd Reg yn y rhyfel, bu farw ei chwaer Marge yn ei chwe degau ac mae ei brawd Ken yn 92 ac yn byw yn Awstralia. Gweithiodd yn Llundain yn y Worshipful Company of Girdlers fel teipydd llaw-fer ac roedd yn is-gapten yn y girl guides. Deuai o deulu cerddorol. Roedd Joan a鈥檌 mam yn canu鈥檙 piano, ei thad yn chwarae cello ac roedd gan ei gwr lais tenor hyfryd. Priododd 芒 John Scott yn Emmanuel Church, West Wickham ar 14 Hydref 1939. Roedd John yn yr awyrlu a bu hithau鈥檔 teithio gydag o tan iddi gael ei merch gyntaf, Hilary. Aeth yn ei h么l i Wickham ond aeth at ei mam a鈥檌 thad i Sale yn ystod y rhyfel. Cafodd ei hail ferch, Heather, a bu鈥檔 byw yn yr un ty am tua trigain mlynedd. Mae ganddi bedwar o wyrion, tri gor-wyr a dau or or-wyr, a thri nai au plant yn Awstralia. Bu鈥檔 gweithio yn Rotalac yn Sale fel teipydd llaw-fer. Mae hi鈥檔 dal i fwynhau canu鈥檙 piano ac mae鈥檔 hoff o wau a gwn茂o. Roedd yn perthyn i Sale United Reformed Church ac fe 芒i i Urdd y Merched yno. Symudodd i dy gwarchod yn Llanelwy cyn symud i Gartref Gofal Pen-y-Bryn dair blynedd yn 么l. Y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis a鈥檌 wraig, Mrs Jennifer Curtis gyda Joan Scott