Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched
Published: 25/11/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.
Nodir Diwrnod y Rhuban Gwyn ledled y byd, a dyma鈥檙 fenter fyd-eang fwyaf i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched drwy alw ar ddynion i gymryd camau i wneud gwahaniaeth.
Mae Aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch sy鈥檔 ceisio cael gwared ar bob math o drais yn erbyn merched, ac fe ddaethon nhw ynghyd yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug heddiw i godi baner mewn cefnogaeth. 听Drwy wisgo rhuban gwyn rydych yn gwneud addewid na wnewch chi byth gyflawni, esgusodi na chadw鈥檔 dawel am drais dynion yn erbyn merched.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:
鈥淢ae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Merched. Mae'r Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais.听Mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych o ddangos cefnogaeth i鈥檙 ymgyrch hon.
鈥淢ae Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi鈥檙 achos yn frwd ers blynyddoedd lawer, ac wedi derbyn canmoliaeth gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn am y gwaith a wnawn. Mae鈥檔 bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a chefnogi gweithgareddau yn ystod yr adeg bwysig hon o鈥檙 flwyddyn."
I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch, neu i ddangos eich cefnogaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:听听.
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.
Dilynwch White Ribbon UK ar twitter:
听
听
听