Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Canlyniadau Addysg 2015/16 
  		Published: 13/10/2016
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 18 Hydref bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint 
nodi canlyniadau asesiadau disgyblion ar draws pob cyfnod allweddol. 
Gellir nodi gwelliannau ym mhob cyfnod allweddol. Mae鈥檙 cynnydd wedi bod yn 
arbennig o galonogol o ran addysg gynradd ac yng Nghyfnod Allweddol 3 ond maer 
Cyngor yn cydnabod yr heriau i wella ymhellach.
Dyma drosolwg or canlyniadau fesul Cyfnod Allweddol:
Y Cyfnod Sylfaen - roedd dangosydd y cyfnod hwn (pan fydd disgybl yn cyflawni 
canlyniad 5 neu uwch) yn 86.9%. Er bod hyn yn ostyngiad o 0.1% o gymharu 芒鈥檙 
flwyddyn flaenorol, mae wedi cynyddu 2.4% ers 2014. O gymharu ag awdurdodau 
lleol gogledd Cymru, mae Sir y Fflint yn yr ail safle. 
Cyfnod Allweddol 2 鈥 Mae canlyniadau Sir y Fflint ar hyn o bryd yn hynod 
gadarnhaol, gyda chynnydd o 2.2% yn ystod 2015 i 90.1%, sy鈥檔 golygu mai Sir y 
Fflint yw鈥檙 cyngor syn perfformio orau yn y gogledd mewn perthynas 芒 dangosydd 
pwnc craidd y cyfnod allweddol hwn.
Cyfnod Allweddol 3 - unwaith eto, perfformiodd Sir y Fflint yn dda gyda 
dangosydd o 88.4% - cynnydd o 1.3% o gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn 
dangos gwelliant blwyddyn ar 么l blwyddyn o 2.1% ers 2014, syn adlewyrchun dda 
ar y gwaith syn cael ei wneud yn ein hysgolion uwchradd i wella canlyniadau 
dysgwyr.
Cyfnod Allweddol 4 (TGAU) 鈥 gwelwyd cynnydd o 0.7% eleni i 61.3% ar y dangosydd 
allweddol, sy鈥檔 rhoi Sir y Fflint yn yr ail safle o gymharu 芒 siroedd eraill y 
gogledd. Maer canlyniadau hyn yn seiliedig ar arholiadau allanol ac ar hyn o 
bryd yn rhai dros dro.
Cyfnod Allweddol 5 (Safon Uwch) - unwaith eto, maer data hwn yn ddata dros dro 
ac yn dangos bod nifer y disgyblion sy鈥檔 derbyn dwy radd Safon Uwch wedi 
cynyddu 1.0% i 98.1%. Fodd bynnag, yn y dyfodol byddwn yn canolbwyntio ar 
gynyddu canran y disgyblion sy鈥檔 ennill graddau Safon Uwch C ac uwch.
Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor 
Sir y Fflint:
鈥淣id oes lle i fod yn hunanfodlon ac rydym ni鈥檔 ymwybodol iawn bod ar rai 
ysgolion angen cymorth i fireinio eu systemau tracio i gaur bwlch rhwng 
perfformiad a ragwelir a pherfformiad terfynol. Rydym ni鈥檔 parhau i ymrwymo i 
wella perfformiad er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y dechrau gorau 
posibl mewn bywyd.
鈥淢ae gan wasanaeth addysg Sir y Fflint nifer o gryfderau ac rwyf yn falch o 
ddweud y bu cryn egni a phenderfyniad i fynd ir afael 芒 materion ac i wella 
perfformiad a deilliannau ar gyfer ein dysgwyr ymhellach.
鈥淢aer Cyngor yn cynnal rhaglen o foderneiddio ysgolion ac mae ei ymrwymiad ir 
rhaglen hon yn parhau i fod yn gryf. Maen awyddus i ddarparur cyfleoedd gorau 
posibl i ddysgwyr gyflawni eu potensial llawn mewn ysgolion syn addas at y 
diben ac sy鈥檔 darparu addysg or radd flaenaf yn yr 21ain ganrif.鈥