Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru
Published: 12/08/2016
Mae Sir y Fflint wedi croesawu ffigyrau creu swyddi diweddaraf Llywodraeth
Cymru yn 8 Ardal Fenter Cymru.
Yn ystod 2015/16, cafodd 1,960 o swyddi eu creu, eu diogelu neu eu cynorthwyo
yn erbyn targed o rhwng 1,400 a 1,900 ar draws yr ardaloedd. Ers iddynt gael eu
creu yn 2012/13, mae 拢177m o fuddsoddiad o鈥檙 sector preifat a鈥檙 sector
cyhoeddus hefyd wedi鈥檌 ddiogelu ac mae dros 400 o fusnesau wedi elwa o
gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu
Economaidd:
鈥淢ae hyn yn newyddion gwych i Gymru a Glannau Dyfrdwy, yn enwedig. Ers creu
Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy ym mis Ebrill 2012, mae 2,036 o swyddi wedi cael
eu creu a 3,150 o swyddi wedi cael eu diogelu. Mae hyn oherwydd bod Sir y
Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru a Bwrdd
Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy 鈥 cyflawniad aruthrol.鈥
Yn ychwanegol at hyn, maer Rhaglenni Twf Sgiliau a Datblygur Gweithlu wedi
darparu cymorth ariannol uniongyrchol o dros 拢300,000 i fusnesau yng Nglannau
Dyfrdwy i gefnogi anghenion datblygu鈥檙 gweithlu.
Mae Ardaloedd Menter yn cynnig anogaethau penodol i ddenu busnesau newydd i
leoliadau ardderchog yng Nghymru gan ddefnyddio datrysiad penodol ar gyfer y
wlad, gyda nod o wella鈥檌 heconomi a chreu swyddi a chyfleoedd. Mae gan bob
ardal ei blaenoriaethau ai hamserlenni ei hun, gan ganolbwyntio ar sector
targed allweddol - mae Glannau Dyfrdwy yn canolbwyntio ar y sector
gweithgynhyrchu uwch.