天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Chwifior Faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog

Published: 22/06/2016

Ddydd Llun 20 Mehefin, cafodd Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis, gwmni鈥檙 Arglwydd Raglaw Harry George Fetherstonhaugh OBE LL, ar Cynghorydd Andy Dunbobbin, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, wrth godi baner Diwrnod y Lluoedd Arfog. Mae Dydd Sadwrn 25 Mehefin yn nodi wythfed Diwrnod y Lluoedd Arfog Cenedlaethol ac yn rhoi cyfle i sefydliadau ac unigolion ddangos eu cefnogaeth i aelodau a chyn aelodau鈥檙 lluoedd arfog a鈥檜 teuluoedd. Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis: 鈥淩wyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn ymuno 芒 sefydliadau cyhoeddus eraill ledled Cymru ar DU i chwifior faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Maen bwysig ein bod yn ymuno 芒n gilydd ac yn dangos y gwerth a roddwn ar ein lluoedd arfog, y gwaith y maent yn ei wneud ar aberthau a wn芒nt. 鈥淢ae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn annog pobl i #SaliwtioEinLluoedd, a byddwn yn annog trigolion Sir y Fflint i fynd i鈥檙 wefan https://www.armedforcesday.org.uk/get-involved/saluteourforces/ a chymryd rhan.鈥 Bydd y faner yn chwifio yn Neuadd y Sir rhwng dydd Llun 20 a dydd Sadwrn 25 Mehefin.