Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adolygu swyddogaethau gweinyddol corfforaethol
  		Published: 16/06/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithion galed i leihau costau 
biwrocratiaeth a chefnogaeth weinyddol drwy adolygiad oi swyddogaethau 
gweinyddol corfforaethol sydd hyd yn hyn wedi gwireddu arbedion o tua 拢1m. 
Bydd cam terfynol yr adolygiad yn gweld un t卯m newydd yn cael ei greu yn cymryd 
cyfrifoldeb am ystod o swyddogaethau gweinyddol megis ymholiadau cwsmeriaid a 
cheisiadau am wasanaeth, Derbynfa, cynnal a chadw cronfeydd data gwybodaeth 
syn seiliedig ar wasanaeth, trefnu hyfforddiant a chefnogaeth, gwasanaethau 
cyfieithu a swyddogaethau cefnogi swyddfa cyffredinol.
 
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
Maer cyngor wedi bod yn gweithio am rai blynyddoedd i newid ei brosesau a鈥檌 
strwythurau er mwyn lleihau biwrocratiaeth a chostau swyddfa gefn. Maer 
adolygiad hwn wedi ei gynllunio o amgylch anghenion y Cyngor yn awr ac yn y 
dyfodol, gan gydnabod bod angen addasu ac ail-lunio swyddogaethau cefnogi 
craidd ochr yn ochr 芒 strategaeth ariannol tymor canolig ehangach y Cyngor. 
Mae hon wedi bod yn broses drylwyr a theg gan gydbwyso arbedion ac 
effeithlonrwydd angenrheidiol mewn gwasanaethau cefnogi a oedd angen cael eu 
cyflwyno i helpu i gynnal gwasanaethau rheng flaen hanfodol ir cyhoedd tran 
diogelu cymaint o swyddi ag y bo modd.
Byddwn yn monitro effaith y newidiadau hyn dros y 12 mis nesaf gydar bwriad o 
nodi arbedion posibl pellach.
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar gynnydd yr adolygiad 
gweinyddol corfforaethol mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin.