天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar welliannau i lwybr troed Bryn Aston A494 

Published: 13/07/2021

cycle image.jpgYn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am arian i wella llwybr troed Bryn Aston, mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud ar y gwelliannau arfaethedig, y bwriedir iddynt fod o fudd i gerddwyr a beicwyr.

Mae'r cynllun yn rhan o gynnig trafnidiaeth integredig ehangach yn yr ardal leol a bydd y cynigion yn cynnwys lledu troedffyrdd, rhannu cyfleusterau beicwyr a cherddwyr, mannau croesi newydd, gwella goleuadau, ffensio a gwell arwyddion.

Dywedodd Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Wasanaethau Stryd, y Cynghorydd Glyn Banks:

鈥淩wy鈥檔 falch bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu鈥檙 cyllid inni i gyflawni鈥檙 gwaith mawr ei angen hwn. Bydd yn gwella ac yn uwchraddio'r droedffordd bresennol i gerddwyr rhwng Cylchfan Ewlo a Ffordd Aston, gan ei throi'n gyfleuster a rennir ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

鈥淏ydd hefyd yn gwneud yr ardal yn fwy diogel trwy adleoli man croesi ffordd ochr Hen Fryn Aston a thrwy gael gwared ar y pwynt tagfeydd lleol yn Ffordd Aston.

鈥淢ae angen eich barn arnom i鈥檔 helpu ni i ddarparu cynllun 鈥榳edi鈥檌 deilwra鈥� sy鈥檔 diwallu anghenion y gymuned leol. Rydym am wella'r ddarpariaeth troedffordd yn y lleoliad hwn a gwneud ein rhwydwaith yn fwy diogel a gwella cysylltedd yn yr ardal leol."

Yn y sefyllfa bresennol, ni allwn gynnal digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, rydym am glywed eich barn am y cynigion, felly rydym yn gofyn ichi edrych ar y cynigion ar-lein yn a chwilio am 'A494 Aston Hill SUP' lle mae holiadur byr wedi'i gynnwys ar gyfer eich sylwadau.

Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, ffoniwch i gofrestru eich barn ar: 01352 701234. Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 16 Gorffennaf ac yn parhau tan hanner nos ar 9 Awst 2021.听

听