Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Menter iach gyntaf iach ym meithrinfa Sir y Fflint
Published: 09/06/2016
Meithrinfa Ddydd Rocking Horse ym Mrychdyn yw鈥檙 feithrinfa gyntaf yn Sir y
Fflint i gwblhau Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy.
Mae hwn yn gynllun cenedlaethol a reolir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yn
cael ei gydlynu yn Sir y Fflint fel estyniad i鈥檙 Cynllun Ysgolion Iach. Mae
lleoliadau cyn ysgol yn gweithio i hyrwyddo a gwarchod pob agwedd o iechyd gan
gynnwys gweithgarwch corfforol, iechyd maeth a cheg, emosiynol a chymdeithasol,
diogelwch, hylendid a lles eu staff.
Gan weithio drwy 7 thema wahanol, mae staff yn y Rocking Horse wedi dangos sut
maent yn darparu cyfleoedd i fod mor iach ag y gallant, ac yn ogystal, sut
maent yn addysgu鈥檙 plant ynghylch beth sydd ei angen i fod yn iach. Fe
wnaethant fodlonir meini prawf ar gyfer pob un or them芒u trwy ddarparu
tystiolaeth eu bod yn ystyried iechyd a lles ym mhopeth a wn芒nt gan gynnwys eu
polis茂au, arweinyddiaeth, ethos ar amgylchedd a thrwy eu teuluoedd ar
gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae llawer o arferion iechyd yn cael eu sefydlu yn ifanc, gan olygu bod
amgylchedd y blynyddoedd cynnar yn amser delfrydol i ddylanwadu ar iechyd
plentyn. Mae gan sefydliadau blynyddoedd cynnar y potensial i wneud cyfraniad
enfawr i iechyd a lles plant yn eu gofal ac mae鈥檙 Cynllun Cyn-ysgol Iach a
Chynaliadwy yn eu helpu i wneud hyn. Mae staff a rheolwyr wedi dangos ymrwymiad
gwirioneddol ir cynllun a thrwy fod y cyntaf yn yr ardal i鈥檞 gwblhau, maen
dangos eu hangerdd am les y plant.鈥
Yn y llun or chwith mae Evelyn Aindow, Rheolwr, a Claire Davies a gydlynodd y
cynllun, gyda staff a phlant o Feithrinfa Ddydd Rocking Horse.