Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Premiwm y Dreth Gyngor
Published: 17/02/2016
O fis Ebrill 2017 ymlaen, bydd cynghorau Cymru yn gallu dewis codi premiwm
treth gyngor gwerth hyd at 100% o鈥檙 gyfradd safonol ar eiddo gwag hirdymor ac
ail gartrefi.
Nod y premiwm yw annog perchenogion i sicrhau bod yr anheddau hyn yn cael eu
defnyddio鈥檔 llawn eto a lleihau鈥檙 broblem prinder tai, cynyddu nifer y tai
fforddiadwy sydd ar gael i鈥檞 prynu neu eu gosod a gwella golwg cymunedau lleol.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cyflwyno premiwm treth
gyngor gwerth 100% o鈥檙 gyfradd safoanol ar ail gartrefi ac eiddo sy鈥檔 wag ers
12 mis neu ragor. Bydd mesurau ar gael i helpu鈥檙 rhai sy鈥檔 ei chael yn anodd
sicrhau bod yr eiddo鈥檔 cael ei ddefnyddio eto. Er enghraifft, mae鈥檔 bosibl y
c芒nt eu heithrio rhag talu鈥檙 premiwm am 12 mis os yw eu heiddo鈥檔 cael ei
farchnata i鈥檞 werthu neu ei osod.
Mae鈥檙 Cyngor wrthi鈥檔 mynd drwy鈥檙 broses o gymeradwyo鈥檙 cynllun ac mae barn y
preswylwyr yn rhan bwysig o鈥檙 broses honno.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 鈥淒rwy gyflwyno鈥檙
cynllun hwn, rydym yn cymryd camau pwysig i ddefnyddio鈥檙 system dreth leol i
annog perchenogion i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto a
chynyddu nifer y tai yn ein cymunedau. Ar hyn o bryd mae tua 888 o gartrefi
gwag hirdymor felly mae鈥檔 bwysig cael sylwadau鈥檙 preswylwyr a鈥檙 cymunedau.
Byddwn yn eu hannog i anfon sylwadau ar ein cynigion erbyn 26 Chwefror 2016.
Gall ymatebwyr ymateb i鈥檙 ymgynghoriad drwy anfon sylwadau drwy鈥檙 e-bost at
local.taxation@flintshire.gov.uk
Os hoffech ragor o wybodaeth am y Premiwm Treth Gyngor, ffoniwch y gwasanaeth
Dreth Gyngor ar 01352 704848.