Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn ystyried defnyddio gwasanaeth DNA i ymdrin â baw ci
Published: 15/02/2016
Trosedd amgylcheddol, yn enwedig baw ci, yw un o flaenoriaethau pobl Sir y
Fflint ac mae Cyngor Sir y Fflint wrthi鈥檔 gyson yn ystyried sut y gall wella
safon glendid y strydoedd. Ar hyn o bryd mae wrthi鈥檔 ystyried dull arloesol o
ymdrin 芒 pherchenogion cwn anghyfrifol.
Cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar rhwng aelodau Grwp Gorchwyl a Gorffen DNA Cwn
Pwyllgor Arolygu a Chraffu鈥檙 Amgylchedd a Gary Downie o Streetkleen i drafod
gwasanaeth cofrestru DNA cwn, sef PooPrints UK, yn Sir y Fflint. Ar 么l i鈥檙 Grwp
ystyried eu casgliadau, byddant yn cyflwyno鈥檜 hargymhellion i鈥檙 Pwyllgor
Craffu llawn cyn i鈥檙 Cabinet benderfynu ar y cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu: 鈥淓r gwaethaf
llwyddiant yr Ymgyrch Glanhau sydd ar waith ers nifer o flynyddoedd, mae
lleiafrif anghyfrifol sy鈥檔 dal i wrthod clirio llanastr eu cwn ac mae鈥檔 bwysig
ein bod yn ystyried yr holl bosibiliadau o ran gorfodi鈥檙 rheoliadau ac anfon
neges gref na chaiff baw ci ei oddef yn Sir y Fflint.鈥
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Mark Middleton, Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Stryd,
Gary Downie o Streetkleen, y Cynghorydd Veronica Gay, y Cynghorydd Arnold
Woolley, y Cynghorydd David Roney, y Cynghorydd Ray Hughes, y Cynghorydd Colin
Legg