Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllid ar gyfer ailwampio cyfleusterau gofal plant yn Sir y Fflint
Published: 11/02/2021
Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi dyfarnu 拢4,890,000 i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllun Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant a 拢500,000 ar gyfer cynlluniau grant cyfalaf bach.听
Mae鈥檙 cynllun yn caniat谩u ar gyfer adeiladu modiwlar neu ailwampio eiddo a fydd yn creu amgylchedd dan do ac awyr agored addas i blant 3-4 mlwydd oed, plant eraill, staff a defnyddwyr eraill yn y gymuned, a fydd yn hamddenol, codi ysbryd, yn ddiogel ac yn ddeniadol.听听
Mae鈥檙 cyllid o ganlyniad i achos busnes sy鈥檔 cael ei gyflwyno gan swyddogion y Blynyddoedd Cynnar a Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd, sy鈥檔 gweithio gyda chydweithwyr yr Adran Addysg a鈥檙 sector gofal plant ehangach.听
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:
鈥淢ae rhieni wedi dweud wrthym y byddant yn ddelfrydol eisiau gallu danfon eu plant a鈥檜 codi o鈥檙 un safle, a chael mynediad i becyn di-dor o ofal plant.
鈥淧rif bwrpas rhaglen Sir y Fflint felly yw hwyluso a chefnogi darpariaeth y Cyfnod Sylfaen a gofal plant ar yr un safle pan fo鈥檔 bosib.鈥
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淒yma swm sylweddol o gyllid ar gyfer Sir y Fflint, a bydd o fudd i sawl rhiant sy'n gweithio ac sydd angen gofal plant cyn ysgol a鈥檙 cynnig o gyfleusterau modern i blant allu chwarae, dysgu a datblygu.
鈥淢ae cydweithwyr y Gwasanaeth Cymdeithasol wedi gweithio mewn partneriaeth lawn gyda swyddogion addysg ar y cynllun hollbwysig hwn, ac rydw i鈥檔 cefnogi鈥檙 rhaglen wych hon yn llawn, i ddarparu cyfleusterau gofal plant o鈥檙 radd flaenaf i nifer o blant yn y sir.鈥
Mae deg safle ysgol gynradd a fyddai鈥檔 elwa o鈥檙 cyllid hwn ar hyn o bryd.听 Sef:
鈥 Ysgol Derwen yn Kinnerton
鈥 Westwood School ym Mwcle
鈥 Ysgol yr Esgob yng Nghaerwys听
鈥 Ysgol Croes Atti yn Shotton
鈥 Ysgol Merllyn ym Magillt
鈥 Ysgol Glan Aber ym Magillt
鈥 Ysgol Bro Carmel yng Ngharmel听
鈥 Ysgol Maes y Felin yn Nhreffynnon
鈥 Ysgol Sychdyn听
鈥 Ysgol y Llan yn Chwitffordd
Rydym yn gobeithio gallu cynnig cynlluniau pellach yn y dyfodol, yn amodol ar gyllid gan LlC.
Dyfarnwyd y contract i gynnal y gwaith hwn i Wynne Construction, sydd wedi鈥檜 lleoli ym Modelwyddan. Gobeithir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn y misoedd nesaf, gyda dyddiad cwblhau erbyn mis Mawrth 2022.
听