Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cyngor yn lansio dwy Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu newydd
  		Published: 22/12/2015
Yn dilyn llwyddiant y Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon, Y 
Fflint a Chei Connah, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod dwy 
Ganolfan newydd wedi agor ym Mwcle a鈥檙 Wyddgrug.
Ymunodd cyd Gynghorwyr Sir 芒 Maerau鈥檙 ddwy dref 芒鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton, 
Arweinydd y Cyngor, i agor y Canolfannau鈥檔 swyddogol ddydd Llun 21 Rhagfyr.
Gyda phwyslais ar wasanaeth cwsmeriaid o鈥檙 radd flaenaf mewn lleoliadau hygyrch 
yng nghanol y trefi, mae Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yr Wyddgrug wedi鈥檌 
lleoli yn Llyfrgell yr Wyddgrug ar Sgw芒r Daniel Owen ac mae Canolfan Bwcle ar 
lawr cyntaf Llyfrgell Bwcle yn y Ganolfan Siopa.
Gall cwsmeriaid gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau allweddol yn y Cyngor 
Sir gan gynnwys tai, Gwasanaethau Stryd, budd-daliadau a chyngor lles, 
Bathodynnau Glas, Cardiau Teithio Rhatach a鈥檙 Dreth Gyngor.
Mae鈥檙 ddwy ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am tan 5pm a gall 
ymgynghorwyr helpu ag ymholiadau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 uchod ac unrhyw fater arall 
sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 Cyngor.  Mae mynediad ar gael at TG a hefyd ardal ar 
wah芒n lle gall gwsmeriaid drafod eu hymholiadau鈥檔 breifat ag Ymgynhghorydd.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Shotton:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn ymroddedig i ymestyn a gwella mynediad cwsmeriaid at 
wasanaethau鈥檙 cyngor, felly er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd presennol 
rwy鈥檔 eithriadol o falch ein bod heddiw wedi agor dwy Ganolfan Sir y Fflint yn 
Cysylltu newydd yn swyddogol ym Mwcle a鈥檙 Wyddgrug, sy鈥檔 dod 芒 mynediad at 
wasanaethau鈥檙 cyngor yn agosach i鈥檙 bobl yn y ddwy dref mewn amgylchedd modern 
a chroesawgar.鈥
Nodyn i Olygyddion
Yn y ffotograffau atodedig gwelir y Cynghorydd Aaron Shotton yn agoriadau 
swyddogol Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu Bwcle a鈥檙 Wyddgrug.