Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Heneiddion Dda yn Sir y Fflint
  		Published: 12/11/2015
Maen cael ei gydnabod yn eang bod pobl yn bywn hirach. 
Wedii lansio ym mis Hydref 2014, mae Heneiddion Dda yng Nghymru yn 
bartneriaeth pum mlynedd o lywodraeth genedlaethol a lleol ac asiantaethau mawr 
y sector cyhoeddus ar trydydd sector yng Nghymru, sydd 芒r nod o sicrhau bod 
gwelliant yn lles pobl 50+ oed.
Mae cynllun Heneiddion Dda yn Sir y Fflint yn nodi camau allweddol ym mhob 
un or pum maes blaenoriaeth a ddiffinnir yn rhaglen Heneiddion Dda yng 
Nghymru a fydd yn cefnogi pobl hyn i gynnal eu lles au hannibyniaeth, sef: 
路 Cymunedau syn Gyfeillgar i Oed
路 Atal Codymau
路 Cymunedau Cefnogol i Ddementia
路 Cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Chyflogaeth
路 Unigrwydd ac Unigedd
Er bod llawer iw ddathlu, mae oedran cynyddol yn gysylltiedig 芒 chynnydd mewn 
problemau iechyd tymor hir a all gael effaith fawr ar fywydau pobl, a bydd yn 
effeithion sylweddol ar y galw yn y dyfodol am wasanaethau iechyd a gofal 
cymdeithasol. 
Bydd sicrhau bod pobl yn gallu heneiddio鈥檔 dda a chadw eu hannibyniaeth nid yn 
unig yn lleddfur pwysau ar wasanaethau, ond hefyd yn diogelu eu lles yn y 
tymor hwy. 
Gellir ond sicrhau lles drwy bethau fel dysgu parhaus, cyfleoedd hamdden, 
cysylltiadau cludiant da a chyfleusterau hygyrch yn y gymuned leol. Bydd 
gweithio ar y cyd gyda phartneriaid i sicrhau鈥檙 gwasanaethau ar cyfleusterau 
hyn yn y tymor hir nid yn unig yn sicrhau bod Sir y Fflint yn lle gwych i fynd 
yn hyn, ond am ein bod yn awyddus i greu cyfleoedd ar draws gwrs bywyd, mae 
hefyd yn lle gwych i dyfu i fyny.
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:
鈥淵n ogystal 芒 bywn hirach, mae pobl hyn yn ddigon teg yn disgwyl byw bywydau 
llawn ac i wneud cyfraniadau cadarnhaol i鈥檞 teuluoedd au cymunedau. Fel 
cymdeithas, rydym i gyd yn cael budd mawr o鈥檙 cyfraniadau hynny ac mae Cynllun 
Gweithredu Heneiddion Dda yn Sir y Fflint yn gam mawr ymlaen er mwyn sicrhau 
bod pawb yn cael y cyfle i heneiddio鈥檔 dda.
鈥淗offwn hefyd gydnabod cyfraniadau ac ymroddiad sylweddol ein partneriaid sydd 
yn ganolog i bwrpas y Cynllun - i wella lles pobl 50+ oed yn Sir y Fflint.鈥
Bydd cynllun Heneiddion Dda yn Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan Gabinet 
y Cyngor yn ei gyfarfod dydd Mawrth, 17 Tachwedd.