Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Polisi gosodiadau lleol i gynorthwyo i gefnogi cymunedau cynaliadwy 
  		Published: 29/10/2015
Fel landlord mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd cydbwyso anghenion tenantiaid 
newydd a buddiannau tenantiaid presennol ac yn ceisio ymateb i anghenion tai 
lleol yn barhaus er mwyn cynorthwyo i greu cymdogaethau diogel a dymunol, y 
bydd pobl yn dymuno byw ynddynt.  I gynorthwyo gyda’r nod hwn bydd adroddiad yn 
ceisio cymeradwyaeth i ddatblygu fframwaith ar gyfer polisïau gosodiadau lleol 
i gynorthwyo i fynd i’r afael â materion tai lleol yn cael ei ystyried gan 
Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter y cyngor ddydd Mercher, 4 
Tachwedd. 
Mae’r fframwaith arfaethedig yn ceisio: 
· Cynorthwyo i fynd i’r afael ag ardaloedd galw isel er mwyn sicrhau ein bod yn 
gwneud y gorau o fuddsoddiad yn ein cartrefi presennol  
· Cynnal cynaliadwyedd hir dymor ardaloedd sefydledig ac ardaloedd newydd gan 
greu lleoedd llewyrchus, iach a gwych i fyw ynddynt 
· Cynorthwyo i gefnogi ac annog cymunedau cytbwys a chydlynol y bydd pobl yn 
dewis byw ynddynt  
· Gwella diogelwch cymunedol trwy fynd i’r afael ac atal Ymddygiad 
Gwrthgymdeithasol ac aflonyddwch.  
· Amddiffyn buddiannau trigolion lleol a’n cartrefi trwy geisio atal neu 
wrthdroi dirywiad cymdeithasol ac amddifadedd.  
Bydd i ba raddau y bydd yr amcanion hyn yn cael eu cymhwyso yn amrywio rhwng 
pob polisi gosodiadau lleol, i gydnabod materion tai gwahanol ar draws y sir 
megis: 
· Ardaloedd o amddifadedd  
· Datblygiadau mawr newydd lle y teimlir bod angen sefydlu cymuned newydd 
· Cefnogi cyfleoedd cyflogaeth tenantiaid sy’n symud yn seiliedig ar swydd a’r 
rhai sy’n ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol i ardal benodol trwy ddull 
economaidd neu wirfoddol. 
· Anghenion a chynaladwyedd cymunedau gwledig e.e. lle bo prisiau tai yn 
broblem 
· Tanfeddiannu a/neu gorlenwi. 
Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai:
“Byddai polisi gosodiadau lleol yn cael ei gymhwyso naill ai ar gyfer ardal 
ddaearyddol benodol neu ddatblygiad adeiladu newydd a byddai’n cynorthwyor 
cyngor i ymateb i faterion tai lleol.  Byddai hyn yn ei dro yn cynorthwyo i 
greu cymdogaethau cynaliadwy, llewyrchus ac iach, gan gydbwyso anghenion y 
tenantiaid newydd a buddiannau tenantiaid presennol. “ 
Cynigir bod y Cyngor yn ystyried yr angen i weithredu polisïau gosodiadau lleol 
ar gyfer rhai datblygiadau newydd, trwy ddechrau’r broses o gasglu tystiolaeth 
i ddangos a oes angen penodol ar gyfer polisi gosodiadau lleol ai peidio.  
Byddwn yn cynnal ymgynghoriad yn unol â’r fframwaith a’r broses ar gyfer 
cymeradwyo er mwyn gweithredu polisi gosodiadau lleol.  Bydd hyn yn cynnwys 
ymgynghori ag Aelodau Etholedig lleol, grwpiau preswylwyr a Chymdeithasau Tai 
eraill.