Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynnydd ar y Cytundeb Canlyniadau
  		Published: 09/10/2015
Mae Cytundeb Canlyniadaur Cyngor yn cynnwys meysydd allweddol lle mae Cyngor 
Sir y Fflint wedi ymrwymo i gyrraedd targedau perfformiad a drafodwyd ac y 
cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru am dair blynedd (2013/14 i 2015/16). 
Rydym yn credu ein bod wedi cyflawnin llawn y targedau a osodwyd ar gyfer 
2014/15 ac yn amodol ar gytundeb Llywodraeth Cymru gydan hunanasesiad, bydd y 
Cyngor yn derbyn y taliad grant llawn o tua 拢1.458m, sydd wedi cael ei 
ddyrannu. Roedd y cyngor yn llwyddiannus yn 2013/14 a chyflawnodd grant llawn. 
Mae gan Sir y Fflint bum maes lle mae wedi ymrwymo i adeiladu ar ei 
lwyddiannau; twf a swyddi cynaliadwy; addysg a gwella cyrhaeddiad ysgolion; 
gofal iechyd ar gyfer yr 21ain ganrif, gwella ansawdd tai a threchu tlodi drwy 
wella sgiliau pobl ifanc a theuluoedd. Mae llawer or meysydd hyn hefyd yn rhan 
o Gynllun Gwellar Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
Bydd twf busnes a swyddi yn dod trwy Lannau Dyfrdwy gydar prosiectau Porth y 
Gogledd a Pharth Menter Glannau Dyfrdwy, lle cefnogodd y cyngor greu dros 1,000 
o swyddi yn 2014/15, a thrwy gynlluniau ar gyfer mentrau cymdeithasol. Mae ein 
rhaglen moderneiddio ysgolion yn parhau i ddarparu cefndir ar gyfer addysg, 
ynghyd ag addewidion i godi safonau mewn ysgolion a rhannu arfer gorau yn y 
rhanbarth. Mae ein hymrwymiad i ofal iechyd wedi gweld cael caniat芒d cynllunio 
ar gyfer cyfleuster gofal ychwanegol newydd yn y Fflint ac rydym yn parhau i 
sicrhau bod gwasanaethau effeithiol yn eu lle i gefnogi gofalwyr. 
Bydd gwerthuso darpariaeth tai o ansawdd yn gyson yn sicrhau bod y Cyngor yn 
cynnig y mathau cywir o dai yn y lle iawn ac am bris y gall preswylwyr ei 
fforddio, ac i鈥檙 perwyl hwn mae鈥檙 datblygwr partner (Living Space Wates) wedi 
cael ei benodi i weithio gydar cyngor i ddarparu 500 o gartrefi fforddiadwy 
trwyr Rhaglen Dai ac Adfywio Strategol (SHARP) yn ystod y pum mlynedd nesaf. 
Bydd hyfforddiant sgiliau, profiad gwaith a rhaglenni entrepreneur ifanc ar 
gyfer y
 genhedlaeth iau yn cael eu cynllunio i fynd ir afael ag effeithiau tlodi.
Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett 
Maer Cyngor wedi perfformion dda yn gyson yn erbyn ei brif flaenoriaethau a 
thargedau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maen parhau i symud ymlaen 芒i 
ddyheadau i ddarparur gwasanaethau a chyfleoedd gorau i drigolion Sir y 
Fflint. Maer Cytundeb Canlyniadau yn gosod yr uchelgais lefel nesaf i gwrdd 芒 
blaenoriaethau polisi allweddol Llywodraeth Cymru, y mae Sir y Fflint yn rhannu 
ac yn cefnogi. 
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y cynnydd a wnaed ar y Cytundeb Canlyniadau 
ar hunanasesiad yn ei gyfarfod ddydd Mawrth