Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cofeb Ryfel Gwepra
  		Published: 29/07/2015
Cynhelir seremoni i nodi diwedd gwaith gwella mawr ar Gofeb Ryfel Gwepra a 
Phont Gwepra yng Nghei Connah ddydd Mawrth 4 Awst. 
Mae鈥檙 gofeb wedi鈥檌 glanhau鈥檔 ofalus a鈥檌 hadnewyddu ac mae palmant a goleuadau 
newydd wedi鈥檜 gosod i wella鈥檙 safle cyfan.  Arianwyd y prosiect gan y Gronfa 
Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru. 
Mae鈥檙 gofeb ryfel wedi鈥檌 breinio 芒 Chyngor Sir y Fflint ac mae digwyddiadau 
coffaol wedi鈥檜 trefnu gan Bwyllgor Rhyngwasanaethau Cei Connah a Shotton.
Gwnaethpwyd gwaith ar y gofeb gan gwmni Grosvenor Construction ac uwchraddiwyd 
y palmant gan gwmni GH Lewis & Sons. 
Meddai Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: Mae鈥檔 hyfryd gweld y gwelliannau i鈥檙 
gofeb hanesyddol hon.  Rwy鈥檔 falch fod y safle a鈥檙 ardal o鈥檌 amgylch wedi鈥檌 
adnewyddu mor ofalus er lles pobl yn y gymuned leol. 
Nodyn i Olygyddion
Fe鈥檆h gwahoddir i anfon ffotograffydd i鈥檙 digwyddiad, a fynychir gan 
urddasolion ddydd Mawrth 4 Awst am 11am. 
Cefndir 
Gosodwyd y Gofeb Ryfel ym mis Mai 1927 ar dir a roddwyd gan ymddiriedolwyr 
Ystad Plas Gwepra a chafodd ei chyflenwi a鈥檌 chodi gan saer maen lleol o Gei 
Connah, Mr. Edward Jones. Costiodd tua 拢1,000.  Mewn twll o dan y sylfaen mae 
blwch derw sy鈥檔 cynnwys potel wedi鈥檌 selio ac ynddi mae darn o femrwn yn rhoi 
manylion hanes y gofeb ac enwau鈥檙 pwyllgor a鈥檙 cyn-filwyr y mae eu hymdrechion 
yn cael eu coffau; mae鈥檙 blwch hefyd yn cynnwys papurau newydd a bathodynnau a 
botymau milwrol y Ffiwsiliwyr Brenhinol Cymreig a Chatrodau eraill.  
Perfformiwyd y seremoni agoriadol gan y Cyrnol T.H.Parry a dywedodd yn ei 
anerchiad 鈥淭his memorial was a sacred memorial and it would soon be so 
dedicated.   Let all present, irrespective of age, so regard it.   Let them see 
not a finger is put on it to mar it any way.   Let them see that the names upon 
it now would be equally as visible for future generation to see.鈥