Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Arfarniad a chynllun rheoli ardal gadwraeth Gwaenysgor
  		Published: 12/06/2015
Disgwylir i鈥檙 Cabinet gymeradwyo cynllun rheoli ar gyfer ardal gadwraeth 
Gwaenysgor ddydd Mawrth (16 Mehefin).
Ardaloedd o ddiddordeb pensaern茂ol neu hanesyddol arbennig yw ardaloedd 
cadwraeth ac mae gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd statudol i鈥檞 
dynodi er mwyn gwarchod eu cymeriad neu eu golwg.
Mae Gwaenysgor ymhlith 32 o ardaloedd cadwraeth yn Sir y Fflint. Dyma鈥檙 ardal 
gyntaf i鈥檞 dynodi鈥檔 ardal gadwraeth gyda chymorth y gymuned leol, y Cyngor 
Cymuned a鈥檙 Aelod lleol, ond mae disgwyl i eraill ddilyn eu hesiampl maes o law.
Bydd y Cynllun yn helpu i lunio ac asesu cynigion datblygu; diogelu adeiladau 
hanesyddol pwysig a sicrhau bod cymeriad arbennig y pentref yn cael ei warchod.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet 
dros yr Amgylchedd:
鈥淢ae Gwaenysgor yn bentref y gallwn ymfalch茂o ynddo, ac mae iddo nifer o 
nodweddion pensaern茂ol a hanesyddol. Er bod newidiadau鈥檔 anorfod, mae angen i 
ni reoli鈥檙 newidiadau hynny i sicrhau bod cymeriad y pentref yn parhau. Os 
caiff y cynllun rheoli hwn ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn cynnwys ymestyn 
ardal gadwraeth y pentref, a bydd yn cynnig canllawiau ar gyfer dylunio 
adeiladau newydd a newid tirwedd yr ardal.鈥  
Mae鈥檙 cynllun rheoli i鈥檞 weld yn agenda adroddiad y Cabinet y mis hwn: 
www.siryfflint.gov.uk