Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cabinet considers its annual progress
  		Published: 12/06/2015
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (16 Mehefin) bydd y Cabinet yn trafod ei gynnydd 
a鈥檙 hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Bydd aelodau鈥檙 Cabinet yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o 
safbwynt Cynllun Gwella鈥檙 Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd hefyd yn 
cael adroddiad diwedd blwyddyn ar bartneriaethau strategol y Cyngor, gan 
gynnwys Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir y Fflint.
Dyma鈥檙 rai o鈥檙 prif bwyntiau:
- bwrw ymlaen 芒 gwaith datblygu tai a gwaith adfywio ar hyd a lled y sir drwy鈥檙 
Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Yn y pen draw, caiff 500 o dai fforddiadwy 
newydd eu codi yn ystod y pum mlynedd nesaf; 
- cymeradwyo trydydd cartref Gofal Ychwanegol y Sir a hynny yn y Fflint;
- y Cyngor fydd yr awdurdod cyntaf yn y Gogledd i gael achrediaeth Rhuban Gwyn 
am ei waith ym maes cam-drin domestig ;
- llwyddiant y Gronfa Gofal Canolraddol i helpu gwasanaethau Gofal Canolraddol 
newydd neu ychwanegol;
- ehangu darpariaeth Dechrau鈥檔 Deg yn y sir; 
- dros 拢6m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus a Llawn 
Addewid. Fe鈥檌 gwariwyd yng Nglannau Dyfrdwy lle mae gwaith ar y gweill i 
wella鈥檙 ardal ddifreintiedig hon yn ogystal 芒鈥檙 sir yn ei chyfanrwydd;
- creu 1,130 o swyddi newydd yn y sir, gan gynnwys 1,012 yn Ardal Fenter 
Glannau Dyfrdwy;
- 99.6% o bobl ifanc 16 oed mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant ar ddiwedd y 
flwyddyn; 
- yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf, cafodd 1,622 o bobl Sir y Fflint 
gyngor a chymorth gan y T卯m Hawliau Lles. Yn sgil yr ymyriadau llwyddiannus 
sicrhawyd budd-daliadau lles a thaliadau credyd treth gwerth 拢3.1 miliwn at ei 
gilydd.
- adroddiad blynyddol da gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos bod y Cyngor 
wedi gwneud cynnydd cyffredinol da wrth roi ei flaenoriaethau gwell ar waith, a 
pherfformiad cryf gan nifer o feysydd gwasanaeth. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 
鈥淒rwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaehu meysydd  a gwasanaethau sy鈥檔 
bwysig i鈥檔 cymunedau. Caiff ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym yn 
mynd i gyrraedd ein targedau. Er gwaethaf y problemau ariannol anodd rydym yn 
eu hwynebu, mae鈥檙 Cyngor yn parhau i fod yn sefydliad sy鈥檔 perfformio鈥檔 dda ac 
rydym wedi cyflawni llawer y gallwn fod yn falch iawn ohonynt.鈥  
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: 
 Mae鈥檙 adroddiadau hyn yn dangos bod Sir y Fflint yn Gyngor cost-effeithiol 
sy鈥檔 gwerthfawrogi ei bartneriaethau, ac sy鈥檔 parhau i wella o鈥檙 naill flwyddyn 
i鈥檙 llall. Mae鈥檙 Cyngor yn perfformio鈥檔 gryf yn 么l ei flaenoriaethau, yn 
enwedig ym maes addysg, yr economi leol a thai.鈥