天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwneud cysylltiad â maethu

Published: 04/06/2015

Oes gennych chi鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i wneud newid cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint? Gydar nifer uchaf erioed o blant yn dod i mewn i ofal ar draws y DU, ar angen i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint, mae gwasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i breswylwyr lleol wneud cysylltiad 芒 maethu, fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth (1 鈥 14 Mehefin). Meddai Jill Jones o Wasanaeth Maethu鈥檙 Cyngor: 鈥淭hema Pythefnos Gofal Maeth eleni yw 鈥榞wneud cysylltiad鈥, ac mae鈥檔 gofyn i bobl i siarad am beth mae maethu yn ei olygu iddyn nhw, eu teulu, a鈥檜 ffrindiau. Mae hefyd yn ymwneud 芒 chwalu mythau ynghylch maethu a chanolbwyntio ar y sgiliau ar profiad sydd eu hangen i ddod yn ofalwr maeth ac i ddarparu cartref cariadus i blant diamddiffyn.鈥 Mae Helen or Wyddgrug wedi bod yn ofalwr maeth am y saith mlynedd diwethaf, yn gofalu am blant o chwe wythnos oed i 16 mlwydd oed. Mae hi wedi gofalu am 27 o blant. 鈥淢ae pob plentyn yn unigolyn; maen nhw鈥檔 dod o gartrefi gwahanol, maen nhw wedi cael profiadau gwahanol ac mae ganddyn nhw eu set eu hunain o broblemau. Mae gan lawer or plant rwyf wedi gofalu amdanyn nhw broblemau gyda bwyd oherwydd ei fod yn rhoi cysur iddyn nhw ac maen nhw wedi dod o gartref lle nad oedd amseroedd bwyd rheolaidd a lle nad oedd bwyd ar gael bob amser. 鈥淢ae angen ymrwymiad ir plentyn ac ymrwymiad i fynychu hyfforddiant, yn enwedig yn ystod eich blwyddyn gyntaf o faethu. Mae hyfforddiant yn eich helpu i ddeall ymddygiad y plant, y trawma gwahanol y mae鈥檙 plant hyn wedi eu hwynebu a sut i ddelio 芒 hynny. Maen rhoi syniadau a strategaethau newydd i chi.鈥 Dywed Helen ei bod yn bwysig paratoi eich hun ymlaen llaw, bod yn realistig, ac ystyried anghenion eich teulu eich hun cyn i chi ymrwymo: 鈥淥s ydych yn meddwl am faethu mae angen i chi ystyried a allwch roi鈥檙 ymrwymiad ar amser y mae ei angen. Rhaid i chi drafod yn hir ac yn galed fel teulu a phenderfynu ai dymar amser cywir. Ni fyddwn yn dechrau maethu pan fydd hi鈥檔 amser arholiadau, byddain well aros ac osgoi鈥檙 amhariad ar gyfer plant eich hun. 鈥淯n myth ynghylch maethu yw鈥檙 farn y bydd dod 芒 phlentyn i gartref cariadus yn gwneud popeth yn well. Nid ywr un fath 芒 rhianta eich plant eich hun, oherwydd nid yw eich plant eich hun erioed wedi bod drwy鈥檙 trawma hwnnw. Os ydych wedi bod yn rhiant da i鈥檆h plant eich hun mewn un ffordd, nid yw hynnyn golygu y bydd yn gweithio wrth faethu. 鈥淔el gofalwr maeth mae angen strwythur a ffiniau. Byddwn yn dweud wrth y plant bod rheolau yn ein ty ni or diwrnod cyntaf un. Fydda i byth yn dweud 鈥楧win gwybod sut rwyt ti鈥檔 teimlo鈥 oherwydd dydw i ddim. Allaf i ddim dechrau dychmygu sut maen nhw鈥檔 teimlo.鈥 Hyd yn oed ar 么l gofalu am 27 o blant, dywed Helen ei bod yn bwysig gwybod pryd i ofyn am help: 鈥淧eidiwch 芒 bod ofn codir ff么n i鈥檙 t卯m maethu neu ofalwyr maeth eraill. Nid ywn arwydd o fethiant. Maen well gofyn am gymorth cyn iddo droin argyfwng. Mae bob amser rhywun ar ben arall y ff么n. Rhaid i chi allu gweithio gyda phobl eraill a siarad am bethau. Rwyf bob amser yn cael cefnogaeth dda gan Wasanaeth Maethu Sir y Fflint pryd bynnag y bydd ei hangen, a dyna pam fy mod yn dal i faethu ar 么l saith mlynedd.鈥 Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淢ae plant lleol sydd angen ein help. Mae llawer o fythau ynghylch pwy all fod yn ofalwr maeth, ond beth syn bwysig mewn gwirionedd yw bod gan rywun yr ymrwymiad, y sgiliau ar gallu i ofalu am blant sydd wediu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd eu hunain, ac i gynnig cartref sefydlog a diogel iddynt. Nid ywn hawdd, ond mae bod yn ofalwr maeth yn rhoi boddhad mawr.鈥 鈥淢ae angen penodol am ofalwyr maeth i ofalu am blant dros 15 a dan 4 oed. Mae pobl ifanc dros 15 oed yn aml wedi byw gyda nifer o ofalwyr maeth, ac mae angen help arnynt i ddal i fyny 芒u cyfoedion au paratoi ar gyfer byw ar eu pen eu hunain. Ychwanegodd Jill Jones o Wasanaeth Maethu鈥檙 Cyngor: 鈥淢ae maethu yn agored i bobl sydd yn sengl, yn briod, yn byw gydai gilydd, yn gweithio, wedi ymddeol, yn ddi-waith, yn hoyw, yn heterorywiol, yn hen ac ifanc, gyda phlant neu heb blant...ond nid ywn hawdd ac rydym yn chwilio am bobl gyda llawer o benderfyniad, egni, amser ac sydd ar gael. Yn enwedig os yw plant eich hun wedi tyfu i fyny a bod gennych yr holl brofiad hwnnw i鈥檞 rannu gyda phlentyn arall sydd wedi methu allan ar y plentyndod y maent yn ei haeddu.鈥 Saith mlynedd, a 27 o blant yn ddiweddarach, mae Helen wrth ei bodd 芒鈥檙 gwobrau a ddaw yn sgil maethu. Mae merch Helen ei hun bellach yn y brifysgol ac maen mwynhau gweld y plant maeth pan ddaw hi adref: 鈥淢aen hoffi clywed am y pethau rhyfedd y bydd y plant yn eu gwneud a鈥檜 dweud, ac mae yna gymaint o 鈥榓degau gorau鈥. O鈥檙 plant sydd yn dweud wrthych eu bod yn eich caru chi, i鈥檙 bachgen 16 oed sy鈥檔 dweud wrthym ein bod yn cwl! Wyneb merch fach, bob bore pan fyddwn i鈥檔 mynd i鈥檞 chodi o鈥檌 chrud 鈥 byddai ei gw锚n yn ddechrau gwych i鈥檙 diwrnod. Y plentyn syn dilyn fy ngwr o gwmpas, gan rwbio ei ddwylo ynghyd, a dweud 鈥楪waith da鈥 - gallwn fynd ymlaen am byth.鈥 Ychwanegodd Jackie Sanders, Cyfarwyddwr Y Rhwydwaith Maethu: 鈥淲rth i bob blwyddyn fynd heibio, rydym yn gweld mwy a mwy o blant yn dod i mewn i ofal. Mae angen pobl a all agor eu calon, a鈥檜 cartrefi, i blant a phobl ifanc ddiamddiffyn sydd angen cymorth ar adeg hollbwysig yn eu bywydau ifanc. 鈥淏ydd gofalwr maeth da yn credu yn uchelgais y plant yn eu gofal yn yr un modd ag y byddent yn credu yn uchelgais aelodau o鈥檜 teulu eu hunain. Mae plentyndod yn rhy fyr i鈥檞 wastraffu, a gall gofalwyr maeth helpur rhai nad ydynt wedi cael y dechrau gorau i ddechrau mwynhau eu bywyd a thyfu i fod yn oedolion y maent am fod.鈥 I ddarganfod mwy am faethu ar gyfer Cyngor Sir y Fflint, cysylltwch 芒 fostering@flintshire.gov.uk, ewch i www.maethusiryfflint.org.uk neu ffoniwch 01352 702190