Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyflwyno arian i elusennaur Cadeirydd
  		Published: 12/05/2015
Mae Cadeirydd rhadlon Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin, wedi 
cyflwyno sieciau gwerth dros 拢20,000 i鈥檞 helusennau dewisedig.
Ers cael ei hethol ym mis Mai y llynedd, mae wedi cefnogi Sefydliad Prydeinig y 
Galon a Chanolfan Ymchwil Canser y Prostad.
Cyflwynodd y Cynghorydd Diskin sieciau am 拢10,000 i gynrychiolwyr o鈥檙 ddwy 
elusen yn Neuadd y Sir yr Wyddgrug, gan ddod 芒 blwyddyn lwyddiannus iawn fel 
cadeirydd i ben.  Yn ystod y cyfnod hwnnw mae hefyd wedi bod yn derbyn 
triniaeth ar gyfer lymphoma nad yw鈥檔 Hodgkin.
Bydd siec am 拢350 hefyd yn cael ei rhoi i Gyfeillion Cerddoriaeth Ieuenctid Sir 
y Fflint.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Diskin:
Rwyf mor falch ac wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i godi cymaint o arian i鈥檙 
tair elusen sydd mor agos at fy nghalon.  Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth 
arbennig yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd 鈥 rwyf wedi cael blwyddyn hyfryd.鈥
Capsiynau:
FBH1936: Yn y llun gyda鈥檙 Cynghorydd Glenys Diskin mae Cynrychiolwyr o 
Sefydliad Prydeinig y Galon: Sion Edwards, Pennaeth Rhanbarthol Dros Dro Codi 
Arian Cymunedol Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru a鈥檙 Gorllewin a Dora Jones a 
Carolyn Watts.
FBH1943: Yn y llun gyda鈥檙 Cynghorydd Glenys Diskin mae Paul Bennett, Dirprwy 
Brif Swyddog Gweithredol, Canolfan Ymchwil Canser y Prostad.