天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Uwchradd Cei Connah

Published: 08/10/2019

Croesawodd Ysgol Uwchradd Cei Connah ymwelwyr yn ddiweddar i weld cynnydd y rhaglen ailwampio fawr sy鈥檔 digwydd yn yr ysgol.

Cwblhawyd rhan gyntaf y gwaith gwella ar ddiwedd y llynedd ac mae wedi trawsnewid nifer o ardaloedd dysgu yn yr ysgol.

Mae disgwyl i ail ran y gwaith fod wedi鈥檌 gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2019 ac mae鈥檔 cynnwys gwella鈥檙 gorchudd allanol, newid to鈥檙 Neuadd Chwaraeon, dymchwel y bloc gweinyddol presennol ac ailwampio ystafelloedd i ddarparu ardal weinyddol a phrif fynedfa newydd.

Cafodd uwch swyddogion o鈥檙 Cyngor a chynrychiolwyr y contractwyr, Kier, eu croesawu gan y Dirprwy Bennaeth Mr John Colclough a Chadeirydd y Llywodraethwyr, y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, a鈥檜 tywys o amgylch yr adeilad.

Mae鈥檙 gwaith yn ffurfio rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard:

鈥淢ae'r gwaith moderneiddio, a oedd wir ei angen yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, wedi鈥檌 wneud i safon uchel a bydd yr ysgol rwan yn mwynhau cyfleusterau modern o鈥檙 radd flaenaf a鈥檙 cyfleoedd dysgu gorau posib.Roedd yn braf gweld y disgyblion yn ymgysylltu mor gadarnhaol 芒'u hamgylchedd dysgu newydd. Mae鈥檙 Cyngor yn parhau'n ymrwymedig i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a phobl ifanc.

Dywedodd Peter Commins, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Kier Regional Building North West:

鈥淩oedd yn bleser cael croesawu ymwelwyr i safle Ysgol Uwchradd Cei Connah. Rydym yn tynnu tua terfyn ein rhaglen adeiladu i ddarparu cyfleusterau modern y gall myfyrwyr yr ysgol eu mwynhau ac elwa ohonynt am flynyddoedd i ddod. Trwy gydol y prosiect mae cwmni Kier wedi cydweithio鈥檔 frwd 芒鈥檙 gymuned leol trwy fforymau amrywiol. Dros ddau gyfnod y prosiect rydym wedi cynnal 30 o ddigwyddiadau, gan ymgysylltu 芒 mwy na 2,300 o ddisgyblion a chreu 19 o gyfleoedd gwaith. Mae etifeddiaeth gwerth cymdeithasol y prosiect yn 拢10.5m ar hyn o bryd, rhywbeth yr ydym yn hynod falch ohono.鈥