Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Rhwydweithio Menter Gymdeithasol Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiant
Published: 19/09/2019
Cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint ail ddigwyddiad rhwydweithio menter gymdeithasol yn ddiweddar.
Cafodd y bobl a ddaeth i鈥檙 digwyddiad y cyfle i fwynhau siaradwyr diddorol a oedd yn cynnwys Katie Whitaker Moon ac Adam Crane o Brifysgol Caer a siaradodd am interniaethau a chyfleoedd dysgu yn y gwaith. Cyflwynodd Linzi Jones o Gymunedau Digidol Cymru wasanaeth newydd a gaiff ei ddarparu gan Iechyd a Lles Digidol a sydd wedi ei anelu at ddatblygu鈥檙 sgiliau er mwyn i bawb allu mynd arlein beth bynnag fo'u profiad TG.听
Hefyd cynigiwyd hyfforddiant am ddim i鈥檙 grwp gan Picturehouse Films ar sut i greu gwell fideos a lluniau i鈥檞 defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.听
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
鈥淒yma'r ail ddigwyddiad rhwydweithio menter gymdeithasol i鈥檞 gynnal eleni ac mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ac yn annog y cyfraniad mae mentrau cymdeithasol yn ei wneud i'r economi a'r effaith maent yn ei gael ar fywydau trigolion.鈥
Rhoddodd Mike Dodd o Sir y Fflint ac Ann Carroll o ABC Performance Consulting y diweddaraf ar achredu Lleoedd Menter Gymdeithasol, rhywbeth mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio tuag ato ar ran mentrau cymdeithasol.听
Caiff y Rhaglen Lleoedd Menter Gymdeithasol ei rhedeg gan Social Enterprise UK ac mae鈥檔 cydnabod y prif leoedd o ran gweithgaredd menter gymdeithasol. Nod y rhaglen yw hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth ac adeiladu鈥檙 marchnadoedd ar gyfer menter gymdeithasol ar lefel lleol a chenedlaethol.听
听

Yn y llun: James Hunt - CAFGAS, Sarah Way - RainbowBiz, Rob Loudon - CSFf, Sue Oliver - RainbowBiz, Andy Crane 鈥 Prifysgol Caer, Marianne Lewis - CSFf, Mike Dodd 鈥 CSFf, Jane Bellis - Art and Soul Tribe, Linzi Evans 鈥 Cymunedau Digidol Cymru, Julie Evans - Pentreperyglon, Ann Carol - ABC Performance Consulting, Kirsty Badrock 鈥 Prifysgol Caer, Katie Whittaker Moon 鈥 Prifysgol Caer
听
听
听
听
听