Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cytundeb Rheoli Dyffryn Maes Glas
Published: 19/08/2019
Arwyddodd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a Chyngor Sir y Fflint Gytundeb Rheoli yn ddiweddar, gyda鈥檙 nod o sicrhau cynaliadwyedd Dyffryn Maes Glas fel cyfleuster lleol ac fel safle o ddiddordeb hanesyddol rhanbarthol a chenedlaethol o bwys.听
Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas;
听鈥淒yma amser cyffrous iawn i ni. Ar 么l sicrhau bron i 拢1m o arian Loteri Treftadaeth yn ddiweddar, ni fu erioed amser gwell i ni ddatblygu a chryfhau ein trefniadau llywodraethol. Mae'r heriau yn cynnwys cynyddu nawdd a ffrydiau incwm mewn marchnad atyniadau gystadleuol, a rheoli o fewn ein modd yn ystod cyfnod o gyfyngder ariannol sector cyhoeddus.
听鈥淩ydym yn hyderus ym mhotensial aruthrol Dyffryn Maes Glas ac am gael ei gydnabod yn yr un modd 芒 safleoedd eraill megis Ceunant Ironbridge yn Swydd Amwythig鈥.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;听
听鈥淢ae Sir y Fflint yn falch o gael Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn ei dreftadaeth, man agored a chynnig twristiaeth. Mae ardaloedd Maes Glas, Treffynnon a thu hwnt yn llawn hanes, a鈥檙 Parc yw鈥檙 atyniad canolog ar gyfer teuluoedd a gweithgareddau awyr agored.听
听鈥淢ae proffil y Parc Treftadaeth yn tyfu drwy gyfuniad buddsoddiad sylweddol Cronfa Dreftadaeth Y Loteri, a chyd ymdrechion yr Ymddiriedolwyr a鈥檙 Cyngor i hyrwyddo mynediad i drigolion a thwristiaid fel ei gilydd鈥.
听鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd yn y cam pwysig nesaf o hanes balch y Parc鈥.听
听
听
听
Yn y llun: Tom Woodall, Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol;听 Andy Farrow,听Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi;
Cyng. Carolyn Thomas; Gwladys Harrison
听