Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Cofior Holocost 2015
  		Published: 27/01/2015
Cafwyd gwasanaeth coffa arbennig yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, heddiw (dydd 
Mawrth 27 Ionawr) i nodi Diwrnod Cofior Holocost 2015: Cadw鈥檙 Cof yn Fyw.
Cynhelir Diwrnod Cofior Holocost ar 27 Ionawr pob blwyddyn. Eleni mae 70 
mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau ac 20 mlynedd ers yr hil-laddiad yn 
Srebrenica, Bosnia. 
Dan arweiniad Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin, 
mynychwyd y gwasanaeth gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, 
Cynghorwyr Sir a gweithwyr y Cyngor a nifer o siaradwyr gwadd, gan gynnwys yr 
Arglwydd Barry Jones a鈥檙 Fonesig Janet Jones, Tim Feak o鈥檙 Eglwys yng Nghymru, 
Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett ar Cynghorydd Andy 
Dunbobbin, Cefnogwr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Sir y Fflint. Roedd 
disgyblion Ysgol Uwchradd y Fflint hefyd yn bresennol. Cafodd yr ysgol ei dewis 
fel un o鈥檙 70 lleoliad yn y Deyrnas Unedig i gynnal seremon茂au arbennig i oleuo 
cannwyll wedi ei chynllunio鈥檔 arbennig ar gyfer y digwyddiad a daeth y 
disgyblion 芒鈥檙 gannwyll efo nhw i鈥檙 gwasanaeth cofio. 
Dywedodd y Cynghorydd Diskin:
鈥淔el Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint roedd yn fraint cael cynnal y gwasanaeth 
coffa arbennig heddiw. Mae Diwrnod Cofior Holocost yn amser i bawb ddod at ei 
gilydd a chofior gorffennol ac ystyried yr hyn fedrwn ni ei wneud i herio 
casineb a chreu dyfodol gwell a diogelach.
鈥淩ydym ni鈥檔 cadw鈥檙 cof yn fyw ar ein cyfer ni ac ar gyfer cenedlaethau鈥檙 
dyfodol. Mae Ysgol Uwchradd y Fflint yn enghraifft ardderchog o hyn ac rydw i鈥檔 
falch iawn bod y myfyrwyr wedi ymuno 芒 ni heddiw.鈥
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofior Holocost yn 
http://hmd.org.uk
Llun: