Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybr i fyd arlwyo
Published: 07/06/2019
Yn ddiweddar, mae Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint wedi cynnal cwrs "Llwybr鈥 llwyddiannus arall, gan roi cyfle i bobl leol gamu i鈥檙 busnes arlwyo
Roedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant achrededig ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys diogelwch bwyd, cymorth cyntaf brys yn y gweithle, iechyd a diogelwch a sesiwn goginio ymarferol.
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
聽鈥淢ae hwn yn gyfle gwych arall i bobl leol ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu cynorthwyo i ddod o hyd i waith yn y busnes arlwyo.聽 Mae鈥檔 esiampl wych o weithio mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint a Can Cook.聽 Nid yn unig mae鈥檙 cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.鈥
Dywedodd un cyfranogwr, Paul Vaughan Williams:
鈥淎m wythnos wych.聽 Rydym wedi ennill cymwysterau defnyddiol ac mae鈥檙 hyfforddwyr wedi bod yn haws sgwrsio 芒 nhw ac barod eu cymwynas; mae atmosffer braf yn y grwp, ac rydym wedi cefnogi ein gilydd.聽 Mae Cymunedau Dros Waith a Mwy yn d卯m gr锚t - anhygoel a dweud y gwir!聽 Byddaf yn sicr yn edrych i fynd ar rhagor o gyrsiau.鈥
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru i ddarparu mentora a chyngor un i un i鈥檆h helpu i ddod o hyd i waith.
Mae Can Cook yn fenter gymdeithasol yn Lerpwl a gafodd ei sefydlu yn 2007 fel sefydliad bwyd sy鈥檔 gweithio gyda phobl sy鈥檔 byw yn Ne Lerpwl nad oes ganddynt sgiliau coginio sylfaenol.聽聽
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gyda Can Cook i ddarparu鈥檙 rhaglen lwyddiannus 鈥淩hannu eich Cinio鈥 a chaiff ei gynnal am yr ail flwyddyn.聽 Eleni, bydd y rhaglen yn darparu prydau bwyd am ddim dros gyfnod o chwe wythnos gwyliau鈥檙 haf i 27 o gynlluniau chwarae ar draws Sir Ddinbych.聽聽
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar y rhaglen, cysylltwch 芒 Janiene yng Nghymunedau am Waith a Mwy ar 01352 704434 neu anfonwch e-bost at: janiene.davies@flintshire.gov.uk.
 |
聽 聽 聽 聽 聽聽 |