天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ardrethi Busnes 鈥 Cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu a鈥檙 Stryd Fawr 

Published: 14/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu cynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20, a fydd yn darparu rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol i fanwerthwyr cymwys dros y flwyddyn nesaf.

Mae鈥檙 cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru - 拢23.6m ar draws Cymru 鈥 yn ehangu ac yn barhad o Gynllun Rhyddhad Ardrethi鈥檙 Stryd Fawr i dalwyr ardrethi cymwys ar gyfer 2019-20. Bydd hyn o fudd i fusnesau lleol gan y bydd yn rhoi canran uwch o ryddhad ardrethi i fwy ohonynt.

Bydd y cynllun sydd wedi ei ehangu, a gaiff ei ariannu鈥檔 llawn gan Lywodraeth Cymru, yn darparu hyd at 拢2,500 tuag at filiau ardrethi busnes eiddo manwerthu gyda gwerth ardrethol o hyd at 拢50,000. Mae鈥檙 maes hefyd wedi ei ehangu i ddarparu rhyddhad i鈥檙 holl fanwerthwyr sy鈥檔 gweithredu ar draws y Sir, gan gynnwys am y tro cyntaf parciau manwerthu, canolfannau siopa y tu allan i drefi a stadau diwydiannol.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint:

鈥淩ydym yn falch iawn o allu rhoi鈥檙 gefnogaeth hon i helpu i fodloni anghenion y siopau lleol, bwytai, caffis ac eiddo trwyddedig. Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i gynnig yr arbedion hyn, sy鈥檔 helpu i hybu ein heconomi leol.

鈥淢ae鈥檙 cynllun hwn yn mynd yn llawer pellach na chynllun 2018/19 oedd yn canolbwyntio鈥檔 bennaf ar ddarparu rhyddhad ardrethi wedi ei dargedu o hyd at 拢750 i fanwerthwyr oedd yn gweithredu yng nghanol trefi. Bydd rhai busnesau nawr yn gymwys am ryddhad ardrethi o 拢1,750 ychwanegol sy鈥檔 gyfystyr 芒 chynnydd o 233% mewn rhyddhad mewn rhai achosion.鈥

Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais ar-lein ar wefan y Cyngor.