天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pobl ifanc yn meithrin hyder a lles drwy sesiynau MMA yn ysgolion Sir y Fflint

Published: 29/07/2026

Mae myfyrwyr mewn dwy ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn elwa o sesiynau crefft ymladd cymysg (MMA) sy'n helpu i hybu hyder a lles.

Mae'r sesiynau, a gyflwynwyd yn Ysgolion Uwchradd Dewi Sant a Chei Connah mewn partneriaeth 芒 The Way Forward Academy, wedi rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn math gwahanol o weithgarwch corfforol wrth ddatblygu sgiliau bywyd gwerthfawr ar gyfer y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.聽

Mae'r ddwy ysgol yn dweud bod y rhaglen wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth helpu disgyblion i feithrin hunanhyder, rheoli straen a datblygu gwydnwch.

Mae adborth gan fyfyrwyr wedi tynnu sylw at newidiadau personol cadarnhaol, gyda phobl ifanc yn nodi mwy o hyder ac yn teimlo'n fwy cadarnhaol amdanynt eu hunain.

Dywedodd yr hyfforddwr MMA Kieran Edwards:聽 鈥淯n o'r rhannau mwyaf pwerus o'r daith hon fu gweld y newidiadau yn y plant.

鈥淒aeth rhai i mewn i'r sesiynau yn brin o hyder ac yn credu na allent gyflawni llawer, ond dros amser rydw i wedi eu gwylio'n camu y tu allan i'w parthau cysur, yn rhoi cynnig ar bethau newydd, ac yn dechrau credu ynddynt eu hunain.聽 Roedd angen allfa gadarnhaol ar eraill i losgi egni a rheoleiddio eu hemosiynau.

鈥淢ae gweld plant yn gadael sesiwn yn hapusach, yn dawelach, ac yn fwy hyderus nag yr oeddent pan gyrhaeddon nhw yn rhywbeth nad ydw i fyth yn blino arno.鈥�

Mae鈥檙 sesiynau wedi鈥檜 cynllunio i ddarparu amgylchedd diogel, strwythuredig lle gall myfyrwyr ddysgu sgiliau newydd wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol 芒鈥檜 cyfoedion.聽 Trwy ymarferion partner a gweithgareddau hyfforddi, anogir disgyblion i gyfathrebu鈥檔 effeithiol a gweithio gyda鈥檌 gilydd.

Mae ysgolion wedi adrodd am ganlyniadau calonogol ers cyflwyno鈥檙 sesiynau, gan gynnwys gwelliannau mewn cyrhaeddiad yn yr ystafell ddosbarth ac agweddau myfyrwyr at ddysgu.

Dywedodd Dan Larkin, Rheolwr Ysgolion Bro Cyngor Sir y Fflint:聽 鈥淢ae MMA yn dysgu hunanreolaeth a pharch yn hytrach nag ymddygiad ymosodol.聽 Mae cyfranogwyr yn dysgu nad trais yw鈥檙 ateb i wrthdaro a bod hyder, cyfathrebu, a hunanddisgyblaeth yn ffyrdd llawer mwy effeithiol o ddatrys heriau.

鈥淢ae鈥檙 sesiynau hyn yn arfogi pobl ifanc 芒 sgiliau bywyd gwerthfawr sydd o fudd iddynt yn yr ysgol ac o fewn eu cymunedau ehangach.鈥�

Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:

鈥淢ae鈥檙 sesiynau hyn yn enghraifft wych o sut y gallwn ymgysylltu pobl ifanc mewn profiadau newydd sy鈥檔 cefnogi eu lles corfforol ac emosiynol.鈥澛� Mae鈥檙 adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr ac ysgolion yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gall mentrau fel hyn ei wneud.鈥�