Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Addasu rheolaeth o safleoedd blodau gwyllt mewn ymateb i鈥檙 tywydd poeth parhaus
Published: 22/07/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fonitro a rheoli ei safleoedd blodau gwyllt ar draws y sir yn flynyddol. Fel arfer caiff yr ardaloedd hyn eu torri a鈥檜 casglu o fis Gorffennaf ymlaen, gyda gwaith yn parhau i fis Awst, Medi a Hydref unwaith i鈥檙 blodau gwyllt orffen blodeuo a gosod hadau.
Mae鈥檙 tywydd eithafol eleni wedi effeithio鈥檔 sylweddol ar ein cynefinoedd blodau gwyllt. Mae nifer o rywogaethau wedi hadu yn llawer cynt nag arfer, ac yn anffodus mae eraill wedi marw cyn gosod hadau. Gyda鈥檙 rhagolygon yn dynodi parhad o鈥檙 amodau poeth a sych, rydym yn addasu ein dull rheoli ar gyfer safleoedd a鈥檙 gymuned ehangach.
O ganlyniad, bydd yr ardaloedd blodau gwyllt ar ochr ffyrdd yn cael eu torri a鈥檜 casglu yn gynt na鈥檙 arfer trwy gydol fis Gorffennaf ac Awst. Mae鈥檙 penderfyniad yn cefnogi iechyd hirdymor ein safleoedd blodau gwyllt trwy dynnu llystyfiant sydd eisoes wedi cwblhau ei gylch bywyd, a cheisio ymateb i bryderon am y risg t芒n cynyddol yn ystod y tywydd poeth hir.
Rydym yn parhau i ymrwymo i gynnal a gwella bioamrywiaeth ar draws Sir y Fflint, a diolchwn i鈥檙 trigolion am eu dealltwriaeth wrth i ni addasu ein rheolaeth mewn ymateb i鈥檙 amodau eithriadol eleni.