Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Gwobr y Faner Werdd yn parhau i chwifio ym Mharc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili
Published: 14/07/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn chwifio Baneri Gwyrdd unwaith eto ar 么l cael eu henwi ymhlith enillwyr Gwobrau鈥檙 Faner Werdd 2026.
Mae Parc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili i gyd wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd ar gyfer 2026, gan eu cydnabod fel rhai o鈥檙 mannau gwyrdd gorau yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddodd Cadwch Gymru鈥檔 Daclus heddiw fod nifer uchaf erioed, sef 330 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru, wedi cyrraedd y safonau uchel sy鈥檔 ofynnol i ennill y Faner Werdd yn 2026. Mae hyn yn cynnwys 93 o safleoedd a enillodd statws llawn Gwobr y Faner Werdd a 237 o safleoedd a dderbyniodd Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Enillodd pedwar ar ddeg o鈥檙 safleoedd hyn hefyd Achrediad Safle Treftadaeth Werdd, gyda chefnogaeth Cadw, am ddangos ymrwymiad i warchod a hyrwyddo eu hanes unigryw.
Dyfarnwyd y Faner Werdd i Barc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili i gydnabod eu bod yn ddiogel, wedi鈥檜 cynnal a鈥檜 cadw鈥檔 dda ac yn l芒n, yn arddangos rheolaeth amgylcheddol ragorol ac yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr. Mae鈥檙 330 o safleoedd ledled Cymru yn cynnwys parciau, campysau prifysgolion, coetiroedd cymunedol, mynwentydd ac ystadau tai.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau statws y Faner Werdd unwaith eto eleni ym Mharc Gwepra, Dyffryn Maes Glas a Bryn y Beili. Mae鈥檙 llwyddiant hwn yn adlewyrchu鈥檙 ymdrech a鈥檙 balchder aruthrol a ddangosir gan y t卯m cyfan sy鈥檔 cynnal ac yn gwella鈥檙 mannau hyn er mwyn i鈥檙 cyhoedd eu mwynhau."
Mae Cyngor Sir y Fflint yn estyn ei ddiolch diffuant i dimau鈥檙 safleoedd ac i鈥檙 rhwydwaith anhygoel o wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu oriau di-ri at waith cynnal a chadw, cadwraeth ac ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned sy鈥檔 gwneud y parciau hyn mor arbennig. Diolch i鈥檞 gwaith caled a鈥檜 hymrwymiad, mae pob safle wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel man gwyrdd blaenllaw sy鈥檔 agored, yn hygyrch ac yn gynaliadwy. Diolch arbennig i Gyfeillion Bryn y Beili a Chyngor Tref yr Wyddgrug, Cyfeillion Parc Gwepra a鈥檔 rhanddeiliaid parc gwerthfawr, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas a鈥檌 gwirfoddolwyr cefnogol.
Mae Parc Gwepra yn parhau i fod yn esiampl ragorol o ran bioamrywiaeth a hamdden i deuluoedd.
Mae Dyffryn Maes Glas yn cynnig cyfuniad cyfoethog o dreftadaeth ddiwydiannol a bywyd gwyllt bywiog.
Mae Bryn y Beili, gyda鈥檌 arwyddoc芒d hanesyddol a鈥檌 swyn naturiol, yn parhau鈥檔 hafan heddychlon o fan gwyrdd yng nghanol tref yr Wyddgrug.
Mae鈥檙 gwobrau鈥檔 cael eu cydnabod mewn mwy nag 20 o wledydd ac yn gwobrwyo鈥檙 parciau a鈥檙 mannau gwyrdd gorau, fel bod ymwelwyr yn gwybod, ble bynnag y gwelant Faner Werdd, eu bod yn ymweld 芒 lle eithriadol sy鈥檔 cyrraedd y safonau uchaf.
Yng Nghymru, Cadwch Gymru鈥檔 Daclus sy鈥檔 gweinyddu cynllun y gwobrau. Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru鈥檔 Daclus:
"Mae Cymru wir yn gosod y safon o ran mannau gwyrdd rhagorol, gyda 330 o leoedd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau鈥檙 Faner Werdd eleni. O barciau blaenllaw a choetiroedd bywiog i safleoedd hanesyddol a mannau cymunedol, mae Cymru wedi dangos flwyddyn ar 么l blwyddyn ei hymrwymiad diysgog i feithrin mannau gwyrdd cynhwysol y gall pawb eu mwynhau.
"Mae mannau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru, ac rydym yn dymuno diolch i鈥檙 holl staff a gwirfoddolwyr sy鈥檔 cyfrannu at sicrhau bod y lleoedd arbennig hyn yn ffynnu ac ar gael i bawb eu mwynhau."
Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus:
听