Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaethau gofal preswyl yn darparu cartrefi diogel a sefydlog i bobl ifanc diamddiffyn
Published: 26/03/2026
Mae cynghorwyr wedi clywed bod plant sy'n byw yng nghartrefi gofal preswyl Cyngor Sir y Fflint yn cael eu cefnogi i ffynnu mewn amgylcheddau diogel a meithringar.
Mae adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet wedi nodi sut mae cartrefi yng ngofal Cyngor Sir y Fflint yn rhoi gofal o ansawdd uchel yn gyson i rai o bobl ifanc mwyaf diamddiffyn y sir.
Tynnodd yr adroddiad sylw at bwyslais cryf ar ddarparu model therapiwtig sydd wedi鈥檌 lywio gan drawma ac sy'n rhoi canlyniadau a buddion pennaf plant a phobl ifanc wrth wraidd ymarfer.
Cafodd staff yn y gwasanaeth ganmoliaeth am eu hymrwymiad i feithrin perthnasoedd llawn ffyrdd 芒'r plant sydd yn eu gofal, gan eu helpu nhw i deimlo'n gartrefol a鈥檜 bod nhw鈥檔 cael eu cefnogi.
Ers 2022, mae'r Cyngor wedi agor pum cartref preswyl i blant i ddiwallu anghenion lleol, lleihau lleoliadau y tu allan i'r sir, a darparu gofal o ansawdd uchel.
Mae'r cartrefi i gyd wedi cael adroddiadau arolygu cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), ac wedi derbyn sgoriau 'rhagorol' a 'da'.
Dywedodd Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淢ae pob plentyn yn haeddu teimlo鈥檔 ddiogel a theimlo ei fod yn cael gofal ac yn cael ei gefnogi, a dyna鈥檔 union y mae ein timau preswyl yn gweithio mor galed i ddarparu bob dydd.
鈥淢ae cryfder y gwasanaeth hwn, sydd wedi鈥檌 adeiladu o鈥檙 gwaelod i fyny mewn cyfnod byr, yn seiliedig ar berthnasoedd y mae ein staff yn eu meithrin 芒 phlant a phobl ifanc, gan greu sefydlogrwydd ac ymddiriedaeth sy鈥檔 eu helpu nhw i dyfu a symud ymlaen yn hyderus.鈥
Mae Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu ar ei waith cadarnhaol ac yn datblygu mwy o gartrefi gofal preswyl i blant a phobl ifanc. A allai hyn fod yn yrfa i chi? I gael rhagor o wybodaeth, .