天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau mynediad mwy diogel i ddechrau ym Mhenyffordd

Published: 23/02/2026

Bydd gwaith gwella cludiant yn dechrau wythnos yma yng Nghylchfan Penyffordd, yn 么l cyhoeddiad gan Gyngor Sir y Fflint.

Bydd y cynllun yn cynnwys lledu llwybrau troed presennol, gosod croesfan twcan newydd ar yr A550, a chyflwyno terfyn cyflymder is o 40mya yng nghyffiniau'r gylchfan.

Gyda'i gilydd, bwriad y mesurau hyn yw creu llwybrau mwy diogel a hygyrch i gerddwyr sy'n teithio i orsaf reilffordd Penyffordd ac oddi yno, tra hefyd yn gwella cysylltedd y tu hwnt i'r orsaf i ardaloedd preswyl cyfagos, cyfleusterau lleol a gwasanaethau cludiant cyhoeddus.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae'r gwaith wedi'i drefnu i ddechrau ddydd Mawrth 24 Chwefror a disgwylir iddo bara tua chwe wythnos. Yn ystod yr wythnos gyntaf, bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal oddi ar y briffordd ac ni fydd angen rheoli traffig. Fodd bynnag, yn dilyn hyn, bydd angen mesurau rheoli traffig i sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r gweithlu.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: 鈥淢ae'r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu opsiynau teithio mwy diogel a chynaliadwy, gan hyrwyddo cerdded a beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus o fewn cymunedau lleol.

鈥淒iolchir i drigolion ymlaen llaw am eu hamynedd a鈥檜 cydweithrediad tra bod y gwelliannau pwysig hyn yn cael eu gwneud.鈥�

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag active.travel@flintshire.gov.uk