Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynlluniau Creu Lleoedd wedi鈥檜 mabwysiadu ar gyfer dwy dref yn Sir y Fflint
Published: 20/01/2026
Mae cynlluniau beiddgar newydd a fydd yn llywio dyfodol dwy dref yn Sir y Fflint wedi鈥檜 cymeradwyo.
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i fabwysiadu Cynlluniau Creu Lleoedd yn ffurfiol ar gyfer Queensferry a Chei Connah.
Mae鈥檙 cynlluniau鈥檔 archwilio鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu鈥檙 ddwy dref ar hyn o bryd ac yn nodi blaenoriaethau a gweledigaeth hirdymor ar gyfer y ddwy dref. Ynghyd 芒 phob cynllun, bydd cynllun gweithredu cynhwysol yn adlewyrchu鈥檙 adnoddau sydd ar gael, a fydd yn nodi partneriaid allweddol, ffynonellau cyllid ac amserlenni.
Mae鈥檙 blaenoriaethau a nodir yn y dogfennau鈥檔 cynnwys gwella mannau gwyrdd cyhoeddus a chanol trefi, dathlu ac adeiladu ar dreftadaeth a hunaniaethau鈥檙 trefi, a鈥檜 gwneud yn ardaloedd glanach, mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld 芒 nhw.
Mae鈥檙 penderfyniad i fabwysiadu鈥檙 ddau Gynllun Creu Lleoedd diweddaraf yn dilyn cymeradwyaeth cynlluniau ar gyfer Bwcle, Treffynnon a Shotton y llynedd. Mae鈥檙 ddau gynllun olaf, sy鈥檔 canolbwyntio ar Yr Wyddgrug a鈥檙 Fflint, wedi鈥檜 datblygu鈥檔 helaeth a disgwylir y byddant yn cael eu cwblhau鈥檔 ddiweddarach eleni.
Mae cyllid ar gyfer datblygu鈥檙 saith cynllun wedi dod o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae鈥檙 gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan D卯m Adfywio鈥檙 Cyngor mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Mae angen y cynlluniau er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth:聽 鈥Mae鈥檙 Cynlluniau Creu Lleoedd hyn yn darparu gweledigaeth glir a rennir ar gyfer dyfodol Queensferry a Chei Connah, wedi鈥檌 siapio gan heriau a dyheadau lleol.
鈥淏yddant yn ein helpu i ddenu buddsoddiad a chyflawni gwelliannau y mae preswylwyr, busnesau a budd-ddeiliaid lleol wedi dweud wrthym eu bod eisiau eu gweld.
鈥淩wy鈥檔 falch o weld y cynlluniau hyn yn cael eu mabwysiadu ac yn edrych ymlaen at weithio gyda鈥檙 ddwy gymuned i sicrhau eu bod yn arwain at fanteision hirdymor ystyrlon.鈥