Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae鈥檙 cyfnod tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd bellach ar agor ar gyfer 2026
Published: 19/01/2026
听Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gofrestru neu adnewyddu eu tanysgrifiad gwastraff gardd ar gyfer 2026, gyda gwasanaeth ehangach a fydd yn darparu casgliadau drwy gydol y flwyddyn am y tro cyntaf.
Ochr yn ochr 芒鈥檙 casgliadau arferol bob pythefnos am naw mis o鈥檙 flwyddyn, bydd y gwasanaeth yn awr yn cynnwys casgliadau misol ym mis Rhagfyr 2026, mis Ionawr 2027 a mis Chwefror 2027.
Cost flynyddol y tanysgrifiad gwastraff gardd ar gyfer 2026 yw 拢38 (beth bynnag fo dyddiad y taliad). Gallwch dalu:
路听听听听听听 Ar-lein
路听听听听听听 Yn un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu
路听听听听听听 Dros y ff么n: 01352 701234
Bydd casgliadau gwastraff gardd yn ailgychwyn ddydd Llun, 2 Mawrth 2026.
Anogir preswylwyr sydd eisiau elwa o鈥檙 gwasanaeth i gofrestru neu adnewyddu eu tanysgrifiad cyn gynted 芒 phosibl er mwyn peidio 芒 cholli鈥檙 casgliad cyntaf.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:听 鈥淩ydym yn gwybod pa mor bwysig yw鈥檙 gwasanaeth hwn i breswylwyr, ac rydym yn falch iawn o allu cynnig casgliadau drwy gydol y gaeaf am y tro cyntaf. Drwy gyflwyno casgliadau misol yn y gaeaf yn ogystal 芒鈥檔 gwasanaeth bob pythefnos, rydym yn ei gwneud hi鈥檔 haws i aelwydydd reoli gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn wrth barhau i gefnogi ymdrechion ailgylchu Sir y Fflint.鈥
Ni fydd preswylwyr sydd wedi tanysgrifio i鈥檙 gwasanaeth yn y gorffennol yn derbyn sticer newydd unwaith y byddant wedi ail-danysgrifio. Os ydych yn danysgrifiwr newydd, bydd pecyn sticer yn cael ei anfon atoch drwy鈥檙 post.
Mae鈥檙 gwastraff gardd sy鈥檔 cael ei gasglu yna鈥檔 cael ei gompostio ac mae ar gael, yn rhad ac am ddim, i breswylwyr mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
I danysgrifio ar-lein, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i鈥檔 gwefan.
Ni fydd y system dalu ar gael rhwng 6pm ddydd Gwener 27 Chwefror ac 8am ddydd Llun, 2 Mawrth. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
听