Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ty Croes Atti yn agor ei ddrysau鈥檔 swyddogol
Published: 24/12/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod ei gartref gofal mwyaf newydd, Ty Croes Atti, wedi鈥檌 gwblhau. Mae hyn yn nodi carreg filltir bwysig yn narpariaeth gofal o ansawdd uchel i鈥檙 gymuned leol.
Mae鈥檙 cyfleuster o鈥檙 radd flaenaf bellach ar agor ac mae鈥檙 preswylwyr cyntaf wedi symud i mewn i ddechrau pennod nesaf eu bywydau mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.
Mae鈥檙 prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Willmott Dixon a Llywodraeth Cymru ac mae鈥檔 darparu cartref i 56 o bobl hyn ar safle hen ysbyty cymunedol.
Bydd BIPBC a thimau gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd integredig.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淩ydym wrth ein boddau o groesawu ein preswylwyr cyntaf i Dy Croes Atti. Mae鈥檙 cartref gofal newydd hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal a chefnogaeth rhagorol yn Sir y Fflint. Rydym yn falch o gynnig lle cynnes a chroesawgar lle gall preswylwyr deimlo'n gartrefol, yn ddiogel a鈥檜 bod yn cael eu gwerthfawrogi.鈥
Mae agor Ty Croes Atti yn fuddsoddiad sylweddol yng ngofal cymdeithasol Sir y Fflint, gan sicrhau bod pobl hyn a鈥檙 rhai sydd angen cefnogaeth yn cael mynediad at wasanaethau gofal modern a lleol.
Mae鈥檙 cynllun yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyfalaf y Gronfa Tai 芒 Gofal a thrwy raglen gyfalaf Cyngor Sir y Fflint.
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:
鈥淢ae鈥檔 wych clywed bod y preswylwyr cyntaf wedi symud i mewn i鈥檞 cartref newydd o ansawdd uchel yn Nhy Croes Atti.
鈥淢ae鈥檙 prosiect yn enghraifft wych o鈥檙 hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau鈥檔 cydweithio ac rwyf wrth fy modd bod ein cyllid wedi sicrhau ar gyfer Sir y Fflint y math o gapasiti cymunedol sydd ei angen arnom ar gyfer y modelau gofal integredig newydd yr ydym yn eu blaenoriaethu ar draws Cymru.鈥
Dywedodd Mike Lane, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Willmott Dixon: 鈥淢ae鈥檔 newyddion gwych fod preswylwyr cartref gofal Croes Atti wedi symud i mewn i鈥檞 cartref newydd. Mae ein t卯m yn freintiedig o fod wedi treulio amser gyda phreswylwyr, eu teuluoedd a staff. Rydym yn falch o fod wedi chwarae ein rhan wrth helpu i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol o鈥檙 radd flaenaf i bobl Sir y Fflint.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredu BIPBC, Tehmeena Ajmal: 鈥淩wyf wrth fy modd bod Ty Croes Atti wedi croesawu ei breswylwyr cyntaf.
鈥淩ydym yn falch o fod yn bartneriaid gyda Chyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a Willmott Dixon yn y datblygiad pwysig hwn. Mae鈥檔 tanlinellu ein hymrwymiad i鈥檔 cymunedau a chydweithio i ddarparu鈥檙 gofal priodol sydd ei angen arnynt.
鈥淢ae Ty Croes Atti yn gam hanfodol arall ar y daith at ddarparu鈥檙 gofal cywir yn y lleoedd cywir, ar yr adeg gywir, i bobl gogledd Cymru.鈥
Rydym yn recriwtio gweithwyr gofal a chymorth i ymuno 芒鈥檔 t卯m ymroddedig yn Nhy Croes Atti.聽 Rydym yn cynnig cyflwyniad sefydlu cynhwysfawr a rhaglen o hyfforddiant, a bydd aelodau newydd o鈥檙 t卯m yn elwa o gefnogaeth ac arweiniad t卯m rheoli profiadol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd cyffrous hyn, anfonwch e-bost at socialservicesrecruitment@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 733598.