天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwilio Dyfodol Safle Hen Gartref Gofal

Published: 24/12/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint yn archwilio sut y gellir o bosibl, defnyddio hen safle Croes Atti yn y Fflint ar gyfer canolbwynt cymunedol i gefnogi plant a theuluoedd ar draws Sir y Fflint.

Mae鈥檙 Cyngor wedi sicrhau rownd gychwynnol o gyllid i gyflawni gwaith cynllunio a hyfywedd cynnar. Bydd hyn yn archwilio dewisiadau gwahanol ar gyfer y safle, gan gynnwys sut y gall gefnogi gwasanaethau cymorth cynnar ac ataliol ar gyfer teuluoedd, gan weithio ar y cyd 芒 phartneriaid lleol.

Canolbwynt y gwaith fydd deall yr angen yn lleol ac ystyried sut y gall gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd ddod ynghyd mewn ffordd fwy hygyrch, yn y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淩ydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i blant, pobl ifanc a theuluoedd allu cael mynediad at y cymorth iawn ar yr adeg iawn, yn agos i鈥檞 cymuned.

鈥淢ae鈥檙 cyllid hwn yn rhoi cyfle i ni archwilio sut all yr hen safle Croes Atti gael ei ddefnyddio i gefnogi鈥檙 nod honno.鈥

Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ar y cam hwn o ran dyfodol y safle. Mae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i ymgysylltu gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid wrth i鈥檙 cynigion gael eu datblygu, gan sicrhau bod y cynlluniau yn gynaliadwy, cydweithredol ac yn cyd-fynd ag anghenion plant a theuluoedd Sir y Fflint.

Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu wrth i鈥檙 gwaith ddatblygu.