天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer ffens newydd ym mynwent Sir y Fflint

Published: 04/09/2025

Bydd gwaith i osod ffens newydd ym mynwent Cei Connah yn dechrau'r hydref hwn ar 么l i Fwrdd Rhaglen Gyfalaf Cyngor Sir y Fflint roi 拢60,000.

Mae'r ffensys ffin presennol wedi bod mewn cyflwr gwael ers nifer o flynyddoedd ac, yn dilyn digwyddiadau o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y safle yn Bryn Road, mae cyllid bellach wedi'i sicrhau i'w tynnu a gosod ffensys newydd, mwy diogel yn eu lle.

Mae'r gwaith wedi'i drefnu i ddechrau yn y misoedd nesaf a bydd hefyd yn cynnwys cynlluniau i adnewyddu'r gatiau haearn presennol, gan gadw eu cymeriad wrth wella diogelwch cyffredinol y safle.

Meddai Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae鈥檙 buddsoddiad hwn yn gam pwysig i sicrhau bod mynwent Cei Connah yn parhau i fod yn lle parchus a heddychlon i鈥檙 teulu ymweld ag anwyliaid. Nid yn unig y bydd newid y ffens ffin ac adnewyddu'r gatiau yn gwella'r safle, ond bydd hefyd yn helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.鈥

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud gan amharu cyn lleied 芒 phosibl ar ymwelwyr, a bydd yn rhoi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r prosiect fynd rhagddo.